Mae Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth (VBHC) yn fodel sy'n cael ei fabwysiadu ledled y byd mewn ymateb i'r heriau y mae systemau iechyd a gofal yn eu hwynebu. Er bod egwyddorion VBHC yn cael eu deall, mae angen ymchwil ar frys i lywio esblygiad VBHC a sut y gellir ei weithredu mewn economïau gofal iechyd amrywiol.
Dim ond drwy waith ymchwil a lledaenu gwybodaeth sy'n seiliedig ar drylwyredd academaidd y gallwn ni wybod sut orau i ddiffinio a mesur y canlyniadau sy'n bwysig i bobl fel rhan o'u gofal arferol; beth yn union yw gwerth cymdeithasol; sut i greu gwerth a rennir yn deg drwy bartneriaethau tymor hir â diwydiant; sut i ddatblygu'r model VBHC i gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol ac ar draws llwybrau gofal hydredol; sut mae VBHC yn cefnogi darpariaeth gofal iechyd darbodus a modelau cyfwerth yn fyd-eang.