Rydym yn cydnabod bod gweithredu VBHC yn newid sylfaenol i systemau iechyd a gofal ac i'r diwydiannau gwyddorau bywyd a gall fod yn heriol yn ymarferol.
Mae ein gwasanaethau ymgynghori yn darparu cymorth ac arwain agweddau mwy cynaliadwy a phwrpasol ar gyfer systemau gofal iechyd a phartneriaid yn y diwydiant, a gellir eu cyfuno ag ymchwil i ddeall yr anghenion sylfaenol a rhaglenni addysgol mewnol wedi'u teilwra i'ch cyd-destun a'ch anghenion i arfogi uwch-arweinwyr a'u timau â'r wybodaeth a'r sgiliau y mae eu hangen.
Rydym yn cymryd amser i ddeall anghenion eich sefydliad neu'ch tîm a chyd-greu'r cymorth rydym yn ei ddarparu i chi. Fel sefydliad academaidd, gallwn drosi'r agweddau diweddaraf yn gynhyrchion gweithredadwy.
Mae gennym sawl arbenigwr rhyngwladol o feysydd gofal iechyd, y gwyddorau bywyd a'r byd academaidd sy'n cefnogi ein rhaglenni addysg ac ymgynghori a gallant fod yn rhan o'r tîm ymgynghori yn ôl yr arbenigedd y mae ei angen.
Rydym yn gweithio gyda rhai o sefydliadau mwyaf y byd ond yn mwynhau partneru â thimau bach a busnesau bach a chanolig hefyd. Mae gennym arbenigedd arbennig mewn "parodrwydd mewnol" cwmnïau Gwyddorau Bywyd i ymgysylltu'n llwyddiannus â systemau iechyd sy'n seiliedig ar werth a chaffael sy'n seiliedig ar werth.
Sut gallwn ni helpu
Mae'r Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth ar gael i helpu sefydliadau iechyd a gofal cyhoeddus ac annibynnol, systemau gofal integredig a chwmnïau gwyddorau bywyd sy'n awyddus i fabwysiadu VBHC.
Gan weithio gyda'n partneriaid cyflenwi, gallwn ddylunio rhaglenni pwrpasol sy'n cynnwys addysg, cyngor, mentora a chymorth parhaus os oes angen, oll wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion eich sefydliad neu'ch tîm, a gall fod yn ddechrau perthynas gydweithredol hirdymor.
I drafod eich anghenion o ran ymgynghori, cysylltwch â ni.