Pan fyddwch yn graddio o Ysgol Reolaeth Abertawe, byddwch yn rhan o'n cymuned o gyn-fyfyrwyr sydd o hyd yn ehangu.
Fel aelod o gymuned cyn-fyfyrwyr yr Ysgol Reolaeth, gallwch:
- Ddod yn fentor i fyfyrwyr presennol
- Cyflwyno astudiaeth achos
- Mynychu digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr
- Hysbysebu swyddi gwag
- Cael mynediad i'r gwasanaethau hyn am 5 mlynedd ar ôl graddio
- Fel cyn-fyfyrwyr, gofynnir ichi gymryd rhan yn yr arolwg Hynt Graddedigion 15 mis ar ôl i chi orffen eich astudiaethau. Nod yr arolwg yw helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gael mewnwelediad i gyrchfannau a datblygiad gyrfa.
Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, cysylltwch â Jessica Loomba.
Dod yn fentor i fyfyrwyr presennol
Fel mentor, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'ch myfyriwr i atgyfnerthu ei alluoedd, cefnogi ei ddilyniant gyrfa ac ehangu ei sgiliau ar ôl graddio.
Yn gyffredinol, bydd y myfyriwr wedi paratoi gydag agenda ar sail ei anghenion datblygiad gyrfa ei hun. Eich rôl chi fydd cynnig cefnogaeth i alluogi'r myfyriwr i ddilyn ei gynllun gyrfa.
Cysylltwch â Thîm Gyrfaoedd i gael gwybod mwy a chymryd rhan.
CYFLWYNO ASTUDIAETH ACHOS
Rydym ni bob amser yn chwilio am straeon gan ein cyn-fyfyrwyr ar sut y maent wedi mynd rhagddo wedi gadael y Brifysgol. Cysylltwch â ni heddiw a rhannu eich stori.
"Ar ôl i mi raddio yn 2016, derbyniais i gynigion am dair swydd mewn cwmnïoedd Cyfrifeg mawr. Derbyniais i swydd Dadansoddwr Treth yn Ernst and Young, sydd bellach yn fy hyfforddi i ddysgu Swedeg a Norwyeg er mwyn i mi weithio yn y prif swyddfeydd hynny."
"Roedd fy lleoliad yn Lidl wedi mynd y tu hwnt i'm holl ddisgwyliadau. Cyflymodd gweithio mewn amgylchedd prysur iawn a heriol fy natblygiad. Byddaf yn dychwelyd i Lidl fel gweithiwr dan hyfforddiant rhyngwladol, gyda chyflog cychwynnol o £40,000."
Mynychu Digwyddiadau i Gyn-fyfyrwyr
Rydym yn cynnal digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr ddwywaith y flwyddyn pan gewch eich gwahodd yn ôl i siarad â'n myfyrwyr presennol am fywyd wedi graddio. Yn y digwyddiadau hyn, gallwch ddal i fyny gyda chyn-fyfyrwyr eraill, rhyngweithio â'n myfyrwyr presennol ac mae croeso i chi gyflwyno sgwrs am eich taith i'r byd gweithio a rhannu'ch profiadau.
Digwyddiad i Gynfyfyrwyr – Rhagfyr 2019
HYSBYSEBU SWYDDI GWAG
Ydych chi'n gweithio i gwmni sy'n chwilio am raddedigion neu fyfyrwyr lleoliad ar hyn o bryd? Os felly, rydym yn hyrwyddo lleoliadau gwaith i'n rhwydwaith o fyfyrwyr ac rydym yn hapus i helpu i hyrwyddo unrhyw rolau a allai fod gennych.
Mae croeso hefyd i chi gwrdd â'n myfyrwyr presennol drwy ein sianeli gyrfaoedd eraill, gan gynnwys ffug gyfweliadau a chanolfannau asesu.
Cynhaliwyd ffair swyddi'n ddiweddar yn yr Ysgol.
Daeth cyn-fyfyrwyr amrywiol i gynrychioli'r cwmnïoedd maent bellach yn gweithio iddynt, gan gynnwys DHL, Swim Wales a TATA Steel, ac achubon ar y cyfle i hyrwyddo eu cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliad i'n myfyrwyr presennol.
Os hoffech chi fod yn rhan o weithgareddau tebyg, cysylltwch â ni.