Trosolwg o'r Cwrs
Mae ymchwil yn dangos y gellid dadlau bod yr ymagweddau cynyddrannol a fabwysiedir gan fusnesau ar hyn o bryd yn annigonol ar gyfer gweithredu ar y raddfa a'r cyflymder angenrheidiol er mwyn cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae'r cwrs hwn wedi ei ddylunio er mwyn arwain Mentrau Bach a Chanolig eu Maint (SMEs) drwy gysyniadau hanfodol cynaliadwyedd a rheoli busnes yn gyfrifol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio pynciau allweddol megis cynaliadwyedd, moeseg, y Nodau Datblygu Cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru, 2015). Yn ychwanegol, mae'r modiwl yn cynnig mewnwelediad i gyfleoedd a safonau hyfforddiant megis llythrennedd carbon ac achrediad B-Corp. Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra ar gyfer gweithwyr proffesiynol, ac mae wedi cael ei ddylunio er mwyn cael ei ymgorffori'n hawdd yn eich patrymau gweithio ac er mwyn cynnig hyblygrwydd.
Mae manteision ymgymryd â'r cwrs hwn yn cynnwys:
- Uwchsgilio'r gweithlu yn unol â gofynion cynaliadwyedd
- Gwell gwybodaeth am gysyniadau, fframweithiau a safonau cynaliadwyedd
- Ennill gwybodaeth am yr ymchwil academaidd ddiweddaraf sy'n ymwneud â’r pwnc ac sy'n gysylltiedig â diwydiant
- Rhwydweithio ag arbenigwyr a chysylltu â Mentrau Bach a Chanolig eu Maint ac unigolion ar draws y rhanbarth
- Gwneud cyfraniad mwy o faint at heriau cymdeithasol mawr, effeithlonrwydd a gwydnwch hir dymor
- Gwella delwedd brand ac ymddiriedaeth gyda chwsmeriaid
- Cwblhau tystysgrif ac e-fathodyn llythrennedd carbon Prifysgol Abertawe