Mae i-Lab Abertawe (Yr Lab Arloesi) wedi’i leoli yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae’n cynnwys casgliad o ganolfannau, themâu, grwpiau ac unigolion sy’n archwilio ymchwil ac arloesi yn yr ystyr ehangaf.

Mae'r Ganolfan i-Lab yn ceisio datblygu gwell dealltwriaeth o arloesedd, rheolaeth, a'i ddylanwad ar ddefnyddwyr, gweithwyr, dinasyddion, sefydliadau, marchnadoedd a chymdeithas. Mae’r gwaith yn mabwysiadu safbwyntiau ansoddol a meintiol a gellir ei gategoreiddio i adlewyrchu diddordebau aelodau ar dair lefel wahanol: cymdeithasol, sefydliadol ac unigol (dinesydd/defnyddiwr).

Mae gweithgareddau Ymchwil ac Arloesedd o fewn i-Lab yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o gyd-destunau, yn cael eu gweld trwy lens o ddatblygiad arloesi, mabwysiadu, trylediad, cynaliadwyedd ac effaith. Mae'r ymagwedd at arloesi yn gydweithredol, gan ganiatáu i ni weithio'n fewnol ar brosiectau gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Reolaeth, y Brifysgol ehangach, a phartneriaid allanol.

Themâu Canolfan Arloesi ac Ymchwil i-Lab

Iechyd

Mae gan y Thema Iechyd ddiddordeb yn y byd ymchwil rheoli iechyd a gofal flaengar. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys Telefeddygaeth a defnyddio technoleg, megis fideo-gynadledda, i ddarparu ymgynghoriadau a gofal meddygol. Mae hyn wedi dod yn pwysig yn ystod y pandemig COVID-19 i ddarparu gofal meddygol yn ddiogel tra'n lleihau cyswllt personol. Ymddangosiad meddygaeth bersonol trwy feddyginiaethau manwl, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau Dysgu Peiriannau (ML); therapiwteg ddigidol a modelau derbyn a mabwysiadu technoleg gofal iechyd ar lefel claf a sefydliad. Mae gweithgareddau yn y Thema Iechyd yn gysylltiedig â'r Comisiwn Bevan – ac  mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Am rhagor o wybodaeth am y thema hon, cysylltwch â'r arweinwyr: Yr Athro Nick Rich (Cefnogir gan: Dr Dan ReesDr Thomas Howson a Dr Dafydd Cottrell)

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein thema Iechyd gan yr Athro Nick Rich.

Data a Thechnoleg Heriau Byd-eang a Chymdeithasol Entrepreneuriaeth a Menter

Arloesedd a Chynnwys

Mae addysg arloesi yn dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i unigolion gynhyrchu syniadau newydd a chreu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd. Gall hyn arwain at dwf economaidd a chreu swyddi, yn ogystal â gwelliannau yn ansawdd bywyd. Mae addysg arloesi yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a datrys problemau, sy'n werthfawr mewn unrhyw faes. Ar ben hynny, mae'n annog creadigrwydd, sy'n ased ar gyfer twf personol a datblygiad proffesiynol. Mae’r Cyfres Sgwrs Arloesedd i-Lab yn dod â chynnwys gan arweinwyr ledled y maes ymchwil arloesi i chi. Mae episodau yn rhan o themâu Canolfan Ymchwil ac Arloesi i-Lab i ddarparu mynediad agored i arloesi ac ymchwil blaengar i bawb. 

Cyfarwyddwyr Arloesedd a Chynnwys Addysgol: Dr Tegwen Malik a Dr Dan Rees 

  • Cynllun a Chynnwys Tudalen We i-Lab 
  • Rheolwyr Cyfres Sgwrs Arloesedd 
i-Lab Logo