Mae'r Ysgol yn gartref i Gomisiwn Bevan, melin drafod sy'n gweithio i ddehongli, dadansoddi a chynghori ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd yng Nghymru. Mae'n rhoi cyngor arbenigol, wedi'i lywio gan dystiolaeth a chonsensws o'r farn awdurdodol, i Vaughan Gething, y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.
Mae wedi datblygu cysylltiadau ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, partneriaid yn y sector preifat, ac academyddion, gan gynnwys ymchwilwyr o’r Ysgol Reolaeth. Mae ein hymchwil gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cyfrannu at ganlyniadau gwell i gleifion ac effeithlonrwydd gweithredol, ac wedi arwain at yr Ysgol yn creu modiwl hyfforddi ar-lein ar gyfer Cynghrair Gwaed Ewrop. Mae'r dulliau 'darbodus' a ddatblygwyd drwy'r gwaith hwn hefyd wedi cael eu mabwysiadu'n eang ar draws rhaglen Bevan Exemplars.