Cynhelir y symposiwm ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, cyfleuster modern, pwrpasol mewn lleoliad trawiadol ar lan y môr ym Mae Abertawe. Mae'r campws yn cynnig darlithfeydd o'r radd flaenaf, mannau cydweithredol a thechnoleg arloesol i sicrhau profiad eithriadol i'r holl gyfranogwyr.

Ynglŷn â Phrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe'n sefydliad blaenllaw yn y DU sy'n adnabyddus am ei rhagoriaeth ymchwil, addysgu arloesol a phartneriaethau rhyngwladol cryf. Wedi'i sefydlu ym 1920, mae gan y Brifysgol hanes balch o feithrin darganfyddiadau academaidd a chydweithio ar draws disgyblaethau. Gyda champysau sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae'n cynnig amgylchedd bywiog lle mae myfyrwyr a staff yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â heriau byd-eang, datblygu gwybodaeth a chreu effaith fyd-eang go iawn. 

Pam Campws y Bae?

  • Lleoliad llawn ysbrydoliaeth: Mae Campws y Bae ar yr arfordir prydferth lle ceir golygfeydd syfrdanol ac amgylchedd tawel ar gyfer dysgu a rhwydweithio.
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf: Ceir mannau addysgu a chynadledda uwch, ystafelloedd ymneilltuo a chysylltedd cyflym.
  • Mynediad Hawdd: Mae'n lleoliad cyfleus, ychydig funudau o ganol dinas Abertawe ynghyd â chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a pharcio ar y safle.
An aerial view of the Bay Campus
An aerial view of the Bay Campus.

Cyfeiriad:

Prifysgol Abertawe
Campws y Bae
Ffordd Fabian
Abertawe
SA1 8EN
Cymru, y DU

Cyrraedd yma:

  • Mewn Car: Cyrraedd o draffordd yr M4, ac mae digon o barcio ar gael.
  • Ar y Trên: Mae'n daith fer i Orsaf Abertawe mewn tacsi neu ar y bws.
  • Yn Hedfan: Mae Maes Awyr Caerdydd tua 45 munud i ffwrdd mewn car.

Llety:

Mae amrywiaeth o westai a fflatiau â gwasanaeth ar gael gerllaw, a cheir opsiynau ar gyfer pob cyllideb. Hefyd, bydd llety ar y campws ar gael i gynrychiolwyr. Prisiau a rhagor o wybodaeth i ddilyn.

Opsiynau Gwesty yn Abertawe

Gwesty'r Village, gwesty 3 seren - hyd at 116 o ystafelloedd

Cyfeiriad: Heol Langdon, Glannau Abertawe, Abertawe, SA1 8QY

Gwefan: Ewch i'r wefan Gwesty'r Village am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: reception.swansea@village-hotels.com  Rhif ffôn: 01792 341 270

Gwybodaeth: Yn rhan o ddatblygiad SA1 Abertawe, mae rhwng Campws y Bae (10 munud) a chanol y ddinas (10 munud). Taith 15 munud mewn car i gampws Singleton.

Marriott Abertawe, gwesty 3 seren - hyd at 121 o ystafelloedd

Cyfeiriad: Ardal Forwrol Abertawe, Abertawe, SA1 3SS, y Deyrnas Unedig

Gwefan: Ewch i'r wefan Marriott Abertawe am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: +44 1792 642020

Gwybodaeth: Ar ochr Marina Abertawe, taith 5 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae. 10 munud ar droed i ganol y ddinas.

Premier Inn Glannau Abertawe, gwesty 3 seren - hyd at 132 o ystafelloedd

Cyfeiriad: Datblygiad y Glannau, Heol Langdon, SA1 8QY

Gwefan: Ewch i'r wefan Premier Inn Glannau Abertawe am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: 0333 321 9208 (mae galwadau i rifau 0871 yn costio 13c am bob munud, yn ogystal â chostau ychwanegol gan weithredwr eich ffôn. Codir tâl sydd gyfwerth â'r gyfradd genedlaethol ar gyfer galwadau i rifau 0333)

Gwybodaeth:  Mae rhwng Campws y Bae (taith 10 munud mewn car) a Chanol y Ddinas (taith 10 munud mewn car). Taith 15 munud mewn car i Gampws Singleton.

Premier Inn Canol Dinas Abertawe, gwesty 3 seren - hyd at 116 o ystafelloedd

Cyfeiriad: The City Gates, Stryd y Gwynt, Abertawe, SA1 1EE

Gwefan: Ewch i'r wefan Premier Inn Canol Dinas Abertawe am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: 0333 321 9061

Gwybodaeth: Yng nghanol dinas Abertawe, taith 5 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae.

Travelodge Canol Abertawe, gwesty 3 seren - hyd at 209 o ystafelloedd

Cyfeiriad: Ffordd y Dywysoges, Abertawe, SA1 3LQ, y Deyrnas Unedig

Gwefan: Ewch i'r wefan Travelodge Canol Abertawe am fwy o wybodaeth ac i archebu 

Manylion Cyswllt: 08719 846326

Gwybodaeth: Yng nghanol dinas Abertawe, taith 5 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae.

ibis Abertawe

Cyfeiriad: A483 Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8LD, Prydain Fawr

Gwefan: Ewch i'r wefan ibis Abertawe am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: +44 20 7365 0519 

Gwybodaeth: Ibis Abertawe yn Abertawe (St. Thomas), byddwch chi daith 10 munud mewn car o Brifysgol Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas. Mae'r gwesty ecogyfeillgar hwn 2.1 milltir (3.4km) o Theatr y Grand a 3.3 milltir (5.3km) o Barc Singleton.

Gwesty'r Dragon, gwesty 4 seren - hyd at 106 o ystafelloedd

Cyfeiriad: 39 Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 5LS

Gwefan: Ewch i'r wefan Gwesty'r Dragon am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: +44 (1792)657100  E-bost: reservations@dragon-hotel.co.uk 

Gwybodaeth: Yng nghanol dinas Abertawe, taith 10 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae.

Gwesty Morgans, gwesty 4 seren - hyd at 42 o ystafelloedd

Cyfeiriad: Somerset Place, Abertawe, SA1 1RR

Gwefan: Ewch i'r wefan Gwesty Morgans am fwy o wybodaeth ac i archebu

Manylion Cyswllt: 01792 484848  E-bost: reception@morganshotel.co.uk 

Gwybodaeth: Yng nghanol dinas Abertawe, taith 5 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae.

Hostel Cwtsh

Cyfeiriad: 10-14 Stryd y Castell, Abertawe, SA1 1JF

Gwefan: Ewch i'r wefan Hostel Cwtsh am fwy o wybodaeth ac i archebu

Cyswllt: 01792 986556   E-bost: hello@cwtsh-hostel.co.uk 

Gwybodaeth: Yng nghanol dinas Abertawe, taith 20 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae. 5 munud ar droed o Orsaf Drenau Abertawe.

Gwesty'r Grand, gwesty 3 seren - hyd at 45 o ystafelloedd

Cyfeiriad: Gwesty'r Grand Abertawe, Ivey Place, y Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1NX, Cymru, y DU.

Gwefan: Ewch i'r wefan Gwesty'r Grand am fwy o wybodaeth ac i archebu

Cyswllt: +44 (1792)645898 E-bost: info@thegrandhotelswansea.com 

Gwybodaeth: Yng nghanol dinas Abertawe, taith 20 munud mewn car i Gampws Singleton, taith 15 munud mewn car i Gampws y Bae. Gyferbyn â Gorsaf Drenau Abertawe.