Apply Now
Job Number
SU00757
Contract Type
Fixed Term
Salary
£33,882 to £37,999 per annum
Faculty/Directorate
Academi Hywel Teifi
Location
Other - See job description
Closing Date
28 Feb 2025
Interview Date
10 Mar 2025
Informal Enquiries
Iestyn Llwyd i.llwyd@abertawe.ac.uk

About The University

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

About The Role

Cyflwyniad

Dyma gyfle i ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) fel tiwtor a fydd yn hyfforddi carfannau o’r gweithlu addysg yn ardaloedd sirol Abertawe, Castell-nedd – Port Talbot a Phenybont. Mae hon yn swydd cyfnod penodedig hyd at 31 Mawrth, 2026 (yn y lle cyntaf).

Bydd deiliad y swydd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr tebyg yn gweithio dan arweiniad Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd natur y gwaith yn amrywio yn ôl natur y galw a’r gofynion ar lefel leol, ac mae’n bosib felly y bydd angen gweithio’n rhagweithiol er mwyn cyflwyno ystod o gyrsiau amrywiol ar lefelau gwahanol, gan ddiwallu anghenion iaith gweithluoedd o fewn y sectorau addysg. Bydd gofyn darparu gwersi wyneb yn wyneb yn ogystal â chynnig profiadau dysgu ar-lein.

Mae DCABA wedi’i leoli o fewn Academi Hywel Teifi – Prifysgol Abertawe, ac yn gweithredu yn bennaf o gampws Singleton, Abertawe ac o Dŷ’r Gwrhyd – Canolfan Gymraeg Pontardawe.

Y swydd

Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad brwd i sicrhau profiad dysgu rhagorol i garfannau o weithwyr yn y sector addysg. Gwelir y manylion llawn yn y Swydd Ddisgrifiad, ond ymhlith y dyletswyddau mae:

  • ysbrydoli a chefnogi gweithluoedd ar draws sectorau addysg i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu cyd-destun proffesiynol,
  • paratoi a chyflwyno gwersi (ar-lein ac wyneb-yn-wyneb) ar draws ystod o gyrsiau a lefelau yn ôl y galw, gan asesu gwaith a medrau dysgwyr ynghyd â darparu adborth adeiladol, cyson ac amserol,
  • cyd-destunoli cynnwys cyrsiau trwy gyfeirio at fethodolegau caffael iaith, gan arfogi gweithwyr ysgolion a sectorau addysg â’r wybodaeth a’r medrau i ddatblygu sgiliau Cymraeg plant a phobl ifanc.
  • diwallu anghenion dysgu unigol ar draws gwahanol lefelau trwy greu a theilwra deunyddiau addysgu priodol, ynghyd â gosod tasgau iaith pwrpasol.
  • bod ar gael i addysgu ar batrwm yn unol â gofynion cynulleidfa a natur y sectorau addysg.
  • ysgogi dysgwyr newydd neu ddysgwyr di-hyder i ailgysylltu â’r Gymraeg a’i defnyddio’n fwy hyderus.
  • gweithio’n adeiladol a chydwybodol tuag at wella ansawdd y ddarpariaeth gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar brofiadau dysgwyr.

Y person

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • yn meddu ar gymhwyster addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol, ynghyd ag ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus,
  • yn arddel sgiliau cyfathrebu rhagorol a rhuglder o’r safon uchaf yn y Gymraeg a’r Saesneg,
  • yn meddu ar brofiad o ddysgu’r Gymraeg i oedolion yn llwyddiannus ar draws yr ystod o lefelau ac i safon uchel,
  • profiad o weithio yn y sector addysga datblygu darpariaeth neu hyfforddiant sy’n rhoi’r dysgwr wrth wraidd y broses ddysgu.
  • yn ymwybodol o gyd-destun a’r math o heriau sy’n wynebu gweithwyr yn y sectorau addysg wrth ymwneud â’r Gymraeg, ac yn gallu cynnig arweiniad, cynhaliaeth ac annogaeth iddynt oresgyn yr heriau hynny,
  • yn gallu gweithio’n hyblyg gan gynnwys teithio i leoliadau gwersi neu gyfarfodydd yn ôl yr angen,
  • yn weithiwr cydwybodol – boed hynny’n annibynnol neu ar y cyd ag eraill,
  • yn gallu defnyddio llwyfannau a meddalweddau technolegol yn hyderus at ddibenion addysgu a chyfathrebu

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth DCABA yma ac ar dudalennau Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol

Equality, Diversity & Inclusion

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Welsh Language Skills

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Level 3 - Fluently. The role holder will be able to conduct a fluent conversation in Welsh on a work-related matter and write original Welsh material with confidence.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Additional Information

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Download Disgrifiad Swydd Print this page Back to list