Amdanom ni
Roedd Oriel Science yn brosiect Prifysgol Abertawe a grëwyd gan ymchwilwyr yn yr Adran Ffiseg a mannau eraill, i arddangos gwaith ymchwil anhygoel y Brifysgol i’r cyhoedd trwy arddangosfeydd, gweithdai a sgyrsiau.
Ers mis Awst 2024, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am y prosiect i elusen annibynnol sy'n parhau â'r gwaith hwn, gan arddangos gwaith ymchwil yn fwy cyffredinol. Ceir rhagor o wybodaeth yn orielscience.co.uk
Ers ei sefydlu yn 2016, mae Oriel Science wedi cyrraedd mwy na 150,000 o bobl, wedi croesawu mwy na 25,000 o ymwelwyr i'n lleoliadau, wedi cynnig gweithdai llawn ysbrydoliaeth i fwy na 2,500 o ddisgyblion ysgol ac wedi cynnal cannoedd o ddigwyddiadau.
Ei nod yw gwella teithiau addysgu a gyrfaol Cenedlaethau'r Dyfodol, mynd i'r afael â thangynrychiolaeth a chyfoethogi perthynas y cyhoedd â gwyddoniaeth ac ymchwil. Mae'n gwneud hynny drwy saernïo ymchwil ein Prifysgol i greu arddangosfeydd diddorol a chyfareddol, a chynnal y rhain mewn lleoliadau lle mae nifer o ymwelwyr, fel y gallwn ni gwrdd â phawb, a'u haddysgu a'u hysbrydoli!
Mae Oriel Science yn adnodd pwerus i academyddion Prifysgol Abertawe, gan gynnig platfform iddynt ar gyfer ymchwil ac ymgysylltiad â'r cyhoedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Ym mis Mai 2021, lansiodd Oriel Science leoliad yng nghanol y ddinas, gan ddenu miloedd o bobl chwilfrydig a disgyblion ysgol. Mae aelodau’r cyhoedd sydd wedi ymweld ag Oriel Science wedi dweud y canlynol:
- Waw! Roedden ni'n ddigon ffodus i gael taith dywys o amgylch @OrielScience newydd yng nghanol dinas Abertawe ac mae'n WYCH! Mae'n llawn arddangosfeydd llawn hwyl a rhyngweithiol sy'n dathlu doniau Abertawe nawr ac yn y gorffennol, wrth ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ased enfawr i Abertawe mewn llu o ffyrdd!
- Mae'n lle gwych i fynd os ydych chi'n hoffi gwyddoniaeth ac am ddysgu rhagor am syniadau a thechnolegau newydd. Roedd y plant wrth eu boddau cymaint, doedden nhw ddim am adael!
Mae addysgwyr sydd wedi dod â dosbarthiadau i Oriel Science wedi bod wrth eu boddau gyda'n rhaglen o weithdai rhyngweithiol, gan nodi'r canlynol:
- mae wedi ysbrydoli myfyrwyr i feddwl yn arloesol a rhoi cynnig ar bethau newydd, gan feddwl am y byd mewn ffordd wahanol,
- roedd yn addysgol ac yn berthnasol i'r cwricwlwm ac wedi bod o fudd i ddysgu'r myfyrwyr,
- roedd yn bleserus tu hwnt gyda chynnwys a staff rhagorol. Bu'r holl ddisgyblion yn dweud eu bod am ddychwelyd.
I gael rhagor o wybodaeth am ein harddangosfeydd gwych ac archwilio ein cyfres amrywiol o weithdai i ysgolion a'r cyhoedd ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol @OrielScience.