Mitchelle Wairimu

Mitchelle Wairimu

Helo, fy enw I yw Mitchelle Wairimu, rwy’n astudio Peirianneg Gemegol ac yn dod o Kenya. Rwyf wrth fy modd â phopeth sy’n ymwneud â ffotograffiaeth a fideorgaffeg, ceir a theithio. Rwy’n mwybhau rhannu fy mhrofiadau gydag eraill ac rwy’n gobeithio ysbrydoli rhywun yn rhywle i ddod yn fersiynau gwell o’i hunain.

 

Becka Eva

Becka Eva

Helo! Fy enw i yw Becka. Pan nad ydw i’n ffilmio fideos ar gyfer fy sianel YouTube (PlanetBecka), rydw i hanner ffordd i fyny wyneb craig neu’n dal ton ar draethau’r Gwŷr. Mae fe mhrofiad fel ffotograffydd ynghyd â fy angerdd am fyw bywyd myfyriwr i’r eithaf, wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer y rôl unigryw hon. Bydd y cyfle hefyd yn fy ngalluogi i gyfleu fy egni a fy nghariad at yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.

 

Mikaela Price

Mikaela Price

Haia! Mikaela ydw i, myfyrywr cyfrifadureg sydd hefyd yn rhedeg sianel YouTube. Rwy’n angerddol am greu a golygu cynnwys sy’n canolbwyntio ar vlogio, bod yn LHDT a bywyd prifysgol. Rwy’n gyffroes iawn yn fod yn lysgennad digidol ac ni allaf aros I wneud y gorau o’r cyfle hwn!

Wayne Damoo

Wayne Damoo

Hei! Fy enw I yw Wayne ac rwyf yn y drydedd flwyddyn yn astudio Mathemateg. Rwyf wrth fy modd â chwaraeon, bwyd a ‘positive vibes’! Rwy’n mwynhau bywyd yn Abertawe yn fawr, yn ogystal â’r cyfryngau, a drwy gyfuno’r ddau rwy’n gobeithio dod a chynnwys gwych llawn gwybodaeth defnyddiol ac egni cadarnhaol. Welai chi o gwmpas!

 

Ola Pietrzykowska

Ola Pietrzykowska

Ola ydw i, myfyriwr Economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Man gen i ddiddordeb mewn marchnata cyfryngau cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd yn siarad â phobl ar Instagram am fy anturiaethau fel myfyriwr rhyngwladol a hefyd yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth. Rwy’n mwynhau tynnu lluniau o fwydydd fegan, natur a phobl.

Os ydych yn dilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol, byddwch yn barod i weld ein tîm newydd o Lysgenhadon Digidol myfyrwyr yn ymddangos ar eich sgriniau!

Mae'r tîm yn gyfrifol am greu tomen o gynnwys cyffrous i fyfyrwyr trwy fideo, blogiau a ffotograffiaeth. Dysgwch fwy am fywyd ym Mhrifysgol Abertawe trwy lygaid ein myfyrwyr…

Howard Qi

Howard Qi

Helo, fy enw i yw Hongyu (Howard). Rwy’n fyfyriwr Ôl-radd yn astudio Cyfathrebu, Ymarfer Cyfryngau Creadigol a Chysylltiadau Cyhoeddus. Rwy’n angerddol am bopeth yn ymwneud â bwyd, cyfryngau cymdeithasol. Codi pwysau a choffi! Os welwch chi fi ar gampws, dewch i ddweud helo!

Claire McGregor

Claire McGregor

Hei! Claire ydw i, myfyriwr meddygaeth mynediad graddedig ac rwy'n ymddiddori mewn pob math o chwaraeon. Gan fy mod yn fyfyriwr meddygol, rwy'n mwynhau cadw'n heini a defnyddio'r cyfleusterau sydd gan Abertawe i'w gynnig i gadw'n heini yn yr awyr agored. Rwyf wrth fy modd bod cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i bobl gael eu hysbrydoli, cymell ei gilydd ac i ddarganfod pethau newydd!

Alpha Evans

Alpha Evans

Shwmae! Alpha ydw i ac rwy’n astudio’r Gymraeg. Edrychaf ymlaen at rannu gwybodaeth am fywyd myfyriwr a’r darpariaethau cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe gydag eraill wrth fod yn llysgennad digidol.

Lanvell Blake

Lanvell Blake

Wah Gwaan? (Beth sy’n digwydd?). Lanvell Blake ydw i, Myfyriwr MSc. Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Cefais fy ngeni a’n magu yn Jamaica. Rwyf hefyd yn grëwr cyd-destun ac yn guradur cynnwys.

Oes gennych chi ddiddordeb yn niwylliant y Caribî - dawns, bwyd, cerddoriaeth, partïon? Bydd fy nghynnwys Llysgennad Digidol yn rhoi blas i chi o'r Caribî, wedi'i weini ag agweddau o fywyd yn Abertawe.