
Bouchra Kabdi
- Gwlad:
- Algeria
- Cwrs:
- MSc Rheoli (Menter ac Arloesi)
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Mae’r bobl Gymreig yn gyfeillgar iawn a'r traeth, pryd bynnag dwi mewn hwyliau drwg dwi’n mynd yno.
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae cynnwys y cwrs yn ddiddorol iawn yn enwedig gan fy mod i wedi newid o Beirianneg i Fusnes
Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rydw i eisiau bod yn ymgynghorydd busnes.
Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Yn bendant, am ansawdd yr addysg a'r llwybr dysgu.
A wnaethoch chi gymryd rhan mewn tîm chwaraeon, clwb a/neu gymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe?
Na. Ond rydw i wedi bod yn gynrychiolydd pwnc ar gyfer fy ngharfan felly rydw i wedi bod yn rhan o Undeb y Myfyrwyr. Roedd yn brofiad braf iawn.
Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Do, i fy helpu i ysgrifennu CV a llythyr eglurhaol, yn ogystal â chymorth iaith Saesneg.
Os yn berthnasol, pa gyfleusterau rydych chi wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o’ch cwrs a pham?
Llyfrau Busnes, maen nhw'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach o'r pynciau. Hefyd cyfnodolion, erthyglau electronig a mynediad at gronfeydd data busnes megis Marketline.