Caitlin Tanner

Caitlin Tanner

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Nyrsio

Ym mha Gyfadran rydych chi'n astudio?

Yr Ysgol Nyrsio yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Beth oedd eich rhesymau dros ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Dechreuais i fy ngyrfa drwy weithio mewn Uned Gofal Dwys am dair blynedd a hanner. Roedd hyn yn cyd-fynd â chyfnod pandemig y coronafeirws ac roeddwn i’n wynebu heriau sylweddol mwy gan fy mod i’n hollol fyddar yn fy nwy glust. Wrth i mi ddechrau fy ngyrfa fel nyrs mewn Uned Gofal Dwys, dechreuais i astudio am radd Meistr ran-amser dros dair blynedd mewn ‘Addysg i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol’.

Gwnaeth yr uchod a chymorth Julia Terry gyfraniad hollbwysig at fy helpu i ennill Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) – rwy’n ddiolchgar iawn am dderbyn yr ysgoloriaeth hon i gefnogi fy PhD.

Beth yw eich maes ymchwil?

Dwi’n ymchwilio i brofiadau nyrsys byddar yn y Deyrnas Unedig. Does dim digon o ymchwil wedi cael ei gwneud yn y maes hwn, ac mae bylchau yn ein dealltwriaeth o brofiadau presennol nyrsys o ymarfer clinigol. Yn 2023, dangosodd ystadegau fod 12 miliwn o oedolion yn y DU yn fyddar neu’n drwm eu clyw, felly mae hwn yn anabledd cyffredin a all effeithio ar unrhyw un (RNID, 2023).

Yn ôl llenyddiaeth, gall nyrsys byddar adael oherwydd diffyg cymorth, bwlio a phryderon am ofal cleifion (Johnson, 2019; Durosaiye et al., 2016). Mae'r ymchwil hon yn ystyried mesurau i atal nyrsys profiadol rhag gadael oherwydd colli clyw sy'n ymwneud ag oedran, ac yn archwilio mesurau i gefnogi’r rhai sy’n colli clyw wrth weithio yn y proffesiwn neu sy’n fyddar cyn dechrau ynddo.

Beth sbardunodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Fel nyrs sy'n fyddar yn fy nwy glust, roeddwn i’n wynebu heriau wrth ddeall y cymorth a allai gael ei gynnig yn ystod ymarfer clinigol. O ganlyniad i’m profiadau personol ac arsylwi ar gydweithwyr byddar, es i ati i ymchwilio i’r heriau mae nyrsys byddar yn eu hwynebu.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?

Rwy’n gobeithio rhoi arweiniad ar y cymorth sydd ar gael i nyrsys byddar, gan ddylanwadu ar bolisïau yn Llywodraeth Cymru, cynnwys ymwybyddiaeth o fod yn fyddar mewn hyfforddiant gorfodol, a gwella dealltwriaeth mewn sefydliadau addysgol. Y nod yn y pen draw yw cyfrannu at gadw a recriwtio nyrsys drwy fesurau cymorth effeithiol.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r cymorth gan y Gyfadran a’r arweiniad amhrisiadwy gan oruchwylwyr fy ymchwil wedi hwyluso fy ymagwedd effeithiol at ymchwil. Hoffwn i ddiolch i Julia Terry ac Ed Lord am eu harweiniad gwerthfawr drwy gydol fy PhD.

Mae cyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau rhyngwladol, diolch i gymorth gan Brifysgol Abertawe a Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, wedi fy ngalluogi i rwydweithio a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Dwi ddim wedi diffinio fy nghynlluniau ar ôl gorffen fy PhD eto, ond rwy’n barod i ystyried cyfleoedd amrywiol, gan gynnwys rhagor o ymchwil, gwaith i’r llywodraeth, addysgu, ymgynghori, a rolau cynghorol. Rwy’n edrych ymlaen at y llwybrau gyrfa amrywiol a allai ddeillio o’m PhD a’m hymchwil.