
Carrie Power
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Gyda Blwyddyn Dramor)
Fy amser gyda’r Fyddin
Ni chafodd y syniad o brifysgol byth ei drafod yn fy nhŷ i, gan nad oedd neb yn fy nheulu erioed wedi bod. Felly gadewais yr ysgol heb wybod beth oedd fy holl opsiynau. Ymunais i â'r Fyddin Wrth Gefn yn 2016 fel Technegydd Meddygol Brwydrau. Fy hoff atgof oedd pan yr oeddwn yn cynrychioli fy uned yn yr Ŵyl Goffa gerbron y Frenhines a'r teulu brenhinol. Cefais yr anrhydedd o dywys Ernie Horsfall, cyn-filwr o'r Ail Ryfel Byd a Dydd D, i lawr Neuadd Frenhinol Albert i gael cymeradwyaeth am ei wasanaeth.
Roedd y Fyddin yn sioc i'r system mewn sawl ffordd. Doedd gen i ddim pasbort nes fy mod yn 20 oed. Es i ar awyren am y tro cyntaf pan gefais fy anfon i'r Almaen yn 2009. Gwnes i weithio hefyd yng Nghanada am dri mis a gwasanaethu am chwe mis yn Affganistan cyn colli fy swydd yn 2013. Felly meddyliais i fy hun, 'A ydw i wir eisiau gwneud hyn am y 40 mlynedd nesaf?’ a'r ateb oedd na.
Mynd i’r Brifysgol
Dewisais ganolbwyntio ar yr hyn a oedd yn fy ngwneud yn hapus, fel fy amser yn astudio Almaeneg yn y Brifysgol Agored o 2011 i 2013. Serch hynny, roedd y Brifysgol Agored yn mynnu eich bod yn cyfuno Almaeneg â phwnc arall, ac nid oedd hynny'n addas i mi. Cefais fy nerbyn i rai, ond roedd llawer o'r cyrsiau'n gofyn am flwyddyn sylfaen; Serch hynny, nid oedd gradd Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe yn gofyn am hynny. Roedd ganddi'r rhaglen a'r cyfleoedd nofio gorau hefyd; ac fel triathletwr a nofiwr, gwnaeth hynny selio fy mhenderfyniad!
Roedd hi'n anodd gan fy mod wedi bod drwy gymaint yn fy mywyd nad oedd fy nghyd-fyfyrwyr yn gallu uniaethu ag ef, ac nid eu bai nhw oedd hyn wrth gwrs, ond mae'n brofiad unig ar adegau. Dechreuais ganfod fy lle yn nhîm nofio Prifysgol Abertawe. Gwnaeth fy ffrindiau fy nghefnogi drwy'r adegau anodd a'm helpu i ddathlu'r dyddiau da. Rwyf mor ddiolchgar i'n Prif Hyfforddwr, Hayley Baker, am wneud i mi deimlo'n rhan o rywbeth a fy nerbyn am y person rydw i, sef nofiwr sydd bron yn 40 oed!
Bywyd ar ôl Graddio
Doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn am ei wneud ar ôl cwblhau fy ngradd, ond yn ystod fy ail flwyddyn, gweithiais i MFL Mentoring, prosiect gwych a ariennir gan Lywodraeth Cymru i annog mwy o ddisgyblion i astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU. Roeddwn i'n dwlu ar y gwaith cymaint fel y dechreuais edrych ar addysgu Almaeneg a Ffrangeg, ac yn fuan byddaf yn dechrau ar fy hyfforddiant ym Mhrifysgol Rhydychen. Rwyf am roi'r hyder iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol, rhywbeth nad oeddwn yn ffodus i'w gael pan oeddwn i eu hoedran nhw.
Wrth fod ym Mhrifysgol Abertawe dros y pedair blynedd diwethaf, dyma'r hapusaf rwyf wedi bod drwy gydol fy mywyd, er gwaethaf rhai anawsterau. Rwy'n teimlo'n hyderus fy mod ar y llwybr cywir yn fy mywyd yn awr, ac mae unrhyw broblemau rwyf wedi'u cael yn fy mywyd wedi gwneud hyn yn werth y cyfan.
DARGANFOD MWY: