Llun o Ceri John Stephens

Ceri John Stephens

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BA Cysylltiadau Rhyngwladol

Eich gyrfa: Ar hyn o bryd rwy’n Bennaeth Astudiaethau Galwedigaethol mewn ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghwm Cynon. Rwy'n rhan o dîm sy'n cyflwyno cyrsiau hygyrch i fyfyrwyr, gan gynnig iddynt fwy nag un ffordd o gael eu hasesu ynghyd â chyfleoedd gyrfa y tu hwnt i'n waliau ni.

Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe: Cefais i brofiad gwych ym Mhrifysgol Abertawe! Roedd cefnogaeth y Brifysgol o ran yr iaith Gymraeg yn wych, a oedd yn bwysig i mi fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf. Roeddwn i wir yn dwlu ar y lleoliad a'r staff gwych, o'r darlithwyr i’r staff yn y caffis.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe: Yr amrywiaeth a'r cynwysoldeb. Cwrddais i â phobl o bob cefndir, gydag uchelgeisiau, crefyddau, profiadau a safbwyntiau gwahanol - a gwnaeth hyn wir fy natblygu i fel person.  Y lleoliad - y traethau, y siopau a'r bwytai, a'r adloniant! Y cyfleoedd - mae cynifer o gyfleoedd amrywiol, ar ben rhai academaidd. Mae llu o agweddau cymdeithasol ar fywyd yn Abertawe, o glybiau chwaraeon i'r 'clwb cyri' (gwnes i fwynhau'r clwb hwnnw'n fawr!)

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe? Cefais wybod gan sawl ffynhonnell ei fod yn lle gwych i astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ac roedden nhw'n iawn! Roeddwn i hefyd yn dwlu ar y cyfleusterau, y llety a'r prif gampws! Roedd traethau a harddwch Abertawe a'r ardaloedd cyfagos hefyd yn atyniad mawr.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol?  Heb os! Yn enwedig gan fod cymaint o fuddsoddi wedi bod yn y Brifysgol ers i mi adael yn 2005. Byddwch chi mewn lleoliad heb ei ail gyda llu o gyfleoedd i dyfu, yn bersonol ac yn academaidd. Dyma fydd penderfyniad gorau eich bywyd!

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa? Gwnaeth ennill gradd agor llawer o ddrysau i mi. I ddechrau roeddwn i'n gymwys i gyflwyno cais am gynllun graddedigion gyda'r manwerthwr Boots yn 2008 ac wedyn es i ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus mewn rheoli manwerthu tan 2012. Wedyn penderfynais i ddod yn athro a chan fy mod i eisoes â gradd, y cyfan roedd angen i mi ei wneud oedd cwblhau cwrs TAR, a gymerodd 9 mis yn unig. Fyddwn i ddim wedi gallu cyflawni hyn heb fy ngradd BA o Brifysgol Abertawe. Yn 2017, gwnes i hefyd astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Addysg a oedd hefyd yn bosibl o ganlyniad i'r ffaith bod gennyf BA eisoes.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa? Ewch amdani! Mae gweithio gyda phobl ifanc yn wobrwyol iawn - mae pob diwrnod yn wahanol! Rydych chi'n cwrdd â llu o gymeriadau ac mae'n deimlad braf gallu eu helpu nhw. Rydw i bellach yn athro ers 14 o flynyddoedd ac rydw i wedi addysgu disgyblion sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus ac mae hynny'n cynhesu fy nghalon!