Hope Henry

Hope Henry

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Yr awyrgylch - mae gennych gyfle gwych yn Abertawe i astudio ger y traeth.
  • Corff amrywiol o fyfyrwyr gyda'r gallu i gwrdd â phobl o gefndiroedd gwahanol.
  • Amrywiaeth fawr o gaffis, bwytai a bariau annibynnol.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

  • Dewisais aros yn Abertawe i astudio Meddygaeth i Raddedigion gan i mi gael profiadau rhagorol yn fy ngradd israddedig gyntaf yma. Mae Abertawe'n cynnig cwrs Meddygaeth i Raddedigion yn unig, yn hytrach na chwrs israddedig, sy'n eich galluogi i gwrdd â phobl o bob cefndir, sy'n dod â set o sgiliau unigryw i'r bwrdd. Mae gan gwrs Abertawe hefyd enw da rhagorol am sawl rheswm gan gynnwys cwricwlwm sbiral, cael mynediad cynnar i leoliadau clinigol a chymorth lles.

A wnaethoch chi ymuno â ni o'r Flwyddyn Sylfaen? Os do – beth yw eich profiad o hyn?

  • Mae'n ffordd wych o ymwreiddio ym mywyd prifysgol a chefais fwy o wybodaeth a sylfaen i'm gradd Gwyddorau Meddygol Cymhwysol. Does dim stigma i'r Flwyddyn Sylfaen, unwaith rydych chi yn y brifysgol does neb yn poeni os daethoch chi drwy'r flwyddyn sylfaen neu beidio; os rhywbeth mae'n eich gwneud chi'n fyfyriwr gwell a mwy rhagweithiol gyda mwy o brofiad.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

  • Mae awyrgylch mor groesawgar a chyfeillgar ar y campysau, o ran staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae'n brifysgol amrywiol a bywiog, sy'n golygu y gall Abertawe fod yn gartref oddi cartref i bawb.
  • Mae Chwaraeon Abertawe a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr mor amrywiol, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae Undeb y Myfyrwyr wir yn cefnogi llais y myfyrwyr wrth wneud gwelliannau, newidiadau neu ddatblygiadau i brofiad y myfyrwyr.
  • Cymorth lles - dyma un o'r pethau gorau am Abertawe. Rydych chi'n cael Mentor Academaidd Personol sy'n aros gyda chi drwy gydol eich cwrs, sy'n gyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw beth sydd ei angen arnoch. Hefyd, mae Meddygfa a gwasanaethau cwnsela, profedigaeth ac ati ar gael ar y campws hefyd.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod dy radd?

  • Gwnes weithio fel Myfyriwr Llysgennad, sy'n ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i Abertawe ac rwy'n annog myfyrwyr y dyfodol i ddod a chael profiad anhygoel yn Abertawe hefyd.

Os yn berthnasol, pa gyfleusterau rydych chi wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o’ch cwrs a pham?

  • Y Labordy Anatomeg Glinigol, gan ddefnyddio modelau a chyrff marw i wella fy ngwybodaeth am anatomeg.
  • SUSIM – mae hwn wedi bod yn wych er mwyn gwella addysgu am sefyllfaoedd clinigol drwy efelychu.
  • Labordai Sgiliau Clinigol - amrywiaeth ragorol o fodelau sy'n ein galluogi ni i ymarfer ein sgiliau clinigol.

Ydych chi’n gallu siarad Cymraeg? Os ydych, ydych chi wedi astudio yn y Gymraeg neu wedi ymwneud ag unrhyw gymdeithasau Cymraeg ac ati?

  • Ydw, ond ddim yn rhugl.
  • Mae gan gwrs GEM Abertawe gwrs 'Iaith Gymraeg ar gyfer Meddygaeth' opsiynol sy'n addysgu'r derminoleg feddygol sylfaenol yn Gymraeg. Mae'n wych fel y mae cleifion yn ymlacio os mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf drwy siarad ychydig eiriau neu frawddegau yn yr iaith y maen nhw'n teimlo fwyaf cyfforddus ynddi.

Wnaethoch chi ymuno â Phrifysgol Abertawe drwy Glirio. Os do, beth oedd eich profiad?

  • Dyma un o'r pethau gorau a wnes i erioed. Gwnaeth Prifysgol Abertawe fy ffonio ar ddiwrnod y canlyniadau ac esbonio fy opsiynau a bod ffordd o hyd i mi ddilyn fy mreuddwyd. Roedd yn rhoi cyfle i mi, ac roeddwn wrth fy modd bod ffordd o hyd i mi fod yn Feddyg. Gan edrych yn ôl ar fy 8 mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe, dwi mor hapus imi ateb yr alwad honno, oherwydd nawr dwi wir yn byw fy mreuddwyd.