Maddison Leigh Parker
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BA Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
Eich Gyrfa: Rydw i'n gweithio fel rheolwr cynorthwyol yn Deloitte yng Nghaerdydd. Mae ein gwaith yn cynnwys cynghori a chynorthwyo ar amrywiaeth o drafodion sy'n cynnwys cwmnïau sydd naill ai eisiau prynu busnes newydd neu werthu eu busnes presennol. Ein gwaith ni yw darparu barn ddibynadwy a gwrthrychol am y busnes sy'n cael ei werthu er mwyn cynorthwyo busnesau wrth iddynt wneud penderfyniadau.
Eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe: Roedd yn brofiad hynod wobrwyol! Gadawais i’r Brifysgol gyda sgiliau bywyd newydd, gradd a wnaeth fy helpu i gamu i fy ngyrfa a ffrindiau oes!
Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe: Wrth gwrs, mae'r traeth yn un o'r prif atyniadau! Does dim lle gwell i dreulio amser gyda ffrindiau, yn enwedig pan fo'r tywydd yn braf. Mae'r bobl yn y Brifysgol bob tro'n gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr/darlithwyr/staff cymorth etc, fyddwch chi byth yn teimlo'n unig yn Abertawe. Fy nhrydydd hoff beth am y ddinas yw El Pescador, bwyty anhygoel yn y marina! Dwi ddim erioed wedi cael fy siomi yno, ac rwyf wedi dathlu sawl pen-blwydd yno, yn ogystal â fy ngraddio, ac rydw i a fy nghariad yn dychwelyd yno eleni i ddathlu 5 mlynedd gyda'n gilydd!
Pam gwnaethoch chi ddewis astudio eich gradd yn Abertawe? Saesneg oedd fy hoff bwnc TGAU a Safon Uwch. Roeddwn i'n awyddus i fedru parhau i astudio iaith a llenyddiaeth, felly roedd hwn yn bwynt gwerthu allweddol wrth i mi ddewis astudio yn Abertawe. Gwnaeth y diwrnod agored gadarnhau fy mhenderfyniad. Wrth i mi archwilio'r campws, roeddwn i'n medru dychmygu fy hun yn byw yno! Roeddwn i hefyd wedi siarad â rhai o gyn-fyfyrwyr Abertawe, ac roedden nhw'n canmol y Brifysgol a'r ddinas yn fawr!
A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol? Mi fyddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe yn fawr! Roedd fy nghyfnod yno yn dair blynedd arbennig. Gallaf eich sicrhau y bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau eich bod chi'n teimlo'n gartrefol ac yn gyfforddus, a fyddwch chi byth yn difaru eich penderfyniad!
Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa? Er bod fy ngradd mewn maes hollol wahanol i'm swydd bresennol, y prif sgìl trosglwyddadwy a ddatblygais i wrth astudio Saesneg oedd cyfathrebu cryf. Rydw i'n aml yn ymdrin ag e-byst i gleientiaid, yn ysgrifennu adroddiadau a dadansoddiadau, ac yn e-bostio cydweithwyr mewnol. Mae sgiliau cyfathrebu clir a phriodol yn ofynnol ar gyfer yr holl bethau hyn, ac fe wnaeth fy amser yn Abertawe fy helpu i'w datblygu.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn yr un yrfa â chi? Gall gweithio i gorfforaeth fawr fel Deloitte fod yn anodd ar adegau, maen nhw'n disgwyl llawer gennych chi a gall y pwysau o astudio am gymhwyster cyfrifeg ochr yn ochr â'ch gwaith achosi straen. Y prif gyngor byddwn i'n ei roi yw i gyflwyno ceisiadau'n gynnar, ymchwiliwch i'r opsiynau sydd ar gael a sicrhewch eich bod chi'n rhoi'r cyfle gorau i’ch hun i fod yn barod ar gyfer cyfweliad. Yn ogystal â hyn, dysgwch gan y bobl sydd o'ch amgylch. Gall y rhain fod yn ffrindiau, yn aelodau teulu neu'n gydweithwyr, ond cofiwch fod eich system gefnogaeth yno i'ch helpu pan fo pethau'n anodd!