Maria Magdalena Oriol Lapetra
- Gwlad:
- Sbaen
- Cwrs:
- LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol
Bu’r cwrs LLM ym Mhrifysgol Abertawe yn un o’r profiadau gorau a gefais erioed.
Mae’r addysgu a’r dysgu yn ymarferol ac yn glir. Er enghraifft, llwyddodd y seminarau i wella fy nealltwriaeth o’r cysyniadau cyfreithiol a addysgwyd yn y darlithoedd ac i feithrin fy ngallu i gymhwyso’r gyfraith at y ffeithiau. Mae angen gweithio bob dydd fel rhan o’r cwrs LLM ac yn sicr, mae’r gwaith hwn yn talu ar ei ganfed, oherwydd ar ddiwedd y cwrs, bydd myfyrwyr wedi meithrin gwybodaeth fanwl am gyfraith forol. Yn ogystal, mae’r dulliau asesu wedi’u cynllunio i’n paratoi ar gyfer bywyd go iawn yn y proffesiwn cyfreithiol. Gwnaeth y gwaith cwrs fy annog i dreiddio’n ddyfnach i rai meysydd, a hefyd i egluro cysyniadau. Mae tîm addysgu’r LLM hefyd wedi rhoi’r cyfle i ni gymryd rhan mewn cynadleddau, digwyddiadau rhwydweithio a gweithgareddau eraill diddorol iawn, fel y gystadleuaeth ddadlau, a oedd yn brofiad ardderchog i mi fel ymgyfreithiwr. Fel cyfreithiwr, yn ystod fy nghwrs LLM yn Abertawe, cefais gyfle nid yn unig i ddysgu’r gyfraith ond hefyd i’w hymarfer. Roedd y cymorth a gefais gan fyfyrwyr yr Adran Cyfraith Forio a Masnach hefyd yn eithriadol, gan wneud i mi deimlo’n fwy cartrefol yn ystod fy mlwyddyn yn Abertawe.