Morayo Olayiwade Kudehinbu
- Gwlad:
- Nigeria
- Cwrs:
- MSc Rheoli (Menter ac Arloesi)
Sut rwyt ti'n teimlo am ennill dy ysgoloriaeth?
Rydw i wrth fy modd. Gwnes i weithio'n galed i gyrraedd lle rydw i heddiw, ac i sefydliad dysgu ag enw da fel hwn gydnabod fy ngwaith caled a chymeradwyo fy nghais am ysgoloriaeth, mae'n
gymhelliant ac yn dystiolaeth bod gwaith caled yn dwyn ffrwyth. Fy nod yw gwneud gwahaniaeth yn fy amgylchedd lleol. Mae'r ysgoloriaeth hon yn sylfaen i mi allu cyflawni fy amcanion.
Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd safle uchel yr ysgol o ran rhagoriaeth addysgu academaidd a'i chymuned amlddiwylliannol gyfeillgar. At hynny, mae Abertawe'n ddinas hardd â
golygfeydd a phobl wych, sy'n amgylchedd croesawgar iawn i ffynnu ynddo.
Elli di ddweud wrthym ni am dy gwrs?
Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio Rheoli mewn Menter ac Arloesi. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar feddwl yn feirniadol mewn entrepreneuriaeth, rheoli arloesi, a strategaeth fusnes a sylfeini
prosiectau. Mae cysyniad y cwrs yn bwysig i amgyffred â marchnadoedd economaidd heddiw.
Pa ran o'r cwrs rwyt ti'n ei mwynhau fwyaf?
Y seminarau ar-lein rhyngweithiol bob pythefnos lle gallaf rannu fy nealltwriaeth, fy nghwestiynau a'm pryderon yn uniongyrchol â'm darlithwyr drwy gyfarfod Zoom heb ofn. Mae hynny wir wedi helpu
i hybu fy hyder oherwydd bod y darlithwyr bob amser yn barod i roi cymorth y mae ei angen arnoch ar y cwrs.
Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?
Dydw i ddim wedi cael cyfle i archwilio Abertawe gymaint ag yr hoffwn ei wneud oherwydd y pandemig. Fy hoff bethau am Abertawe yw'r golygfeydd anhygoel ar y traeth, a'r gymuned gyfeillgar a
heddychlon. Rydw i'n edrych ymlaen at y digwyddiadau ar y campws a'r bwydydd gwych.
Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Mae fy nghynlluniau'n cynnwys defnyddio fy holl wybodaeth o Brifysgol Abertawe yn fy musnes sy'n tyfu, canolfan hamdden yn fy ngwlad enedigol.
Pa gymorth neu gyfleusterau sydd wedi bod yn enwedig o ddefnyddiol i ti fel myfyriwr rhyngwladol?
Fel myfyriwr rhyngwladol, mae symud i wlad newydd yn gallu teimlo’n dipyn o her. Nid dyma sut oedd hi pan symudais i Abertawe. Gwnaeth yr adran myfyrwyr rhyngwladol fy helpu wrth integreiddio yn
y system heb broblemau. Maen nhw'n dîm gwych.
A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Yn bendant! Mae Prifysgol Abertawe yn rhoi i chi bopeth sydd ei angen i lwyddo yn eich rhaglen; mae ei chymuned amlddiwylliannol nodweddiadol bob amser ar gael i roi'r holl gymorth sydd ei angen.
Mae'r ansawdd bywyd yn rhyfeddol ar y campws ac oddi arno; mae'r golygfeydd a'r awyrgylch yn y ddinas yn drawiadol. Bydd unrhyw un wrth ei fodd yma!