
Mr Deepak Aryal
- Gwlad:
- Nepal
- Cwrs:
- MSc Seiberddiogelwch
Graddiais yn 2023 gydag MSc mewn Seiberddiogelwch. Gwnes fwynhau'r diwylliant myfyrwyr amrywiol, yr academyddion gwych a'r dysgu ymarferol. Roedd ennill ysgoloriaeth Black Hat USA a CTF a drefnwyd gan BAE Systems yn uchafbwyntiau. Roedd cynnwys y cwrs a'r aseiniadau wedi cefnogi datblygiad fy ngyrfa'n uniongyrchol.
Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
Dewisais i Brifysgol Abertawe am fod ei chwrs MSc mewn Seiberddiogelwch yn berffaith ar gyfer yr hyn roeddwn i am ei ddysgu a'i gyflawni. Yn wahanol i brysurdeb dinasoedd mawr fel Llundain, roedd gan Abertawe amgylchedd tawel a heddychlon lle gallwn ganolbwyntio ar fy astudiaethau heb fod pethau'n tarfu arnaf. Roedd y lleoliad glan môr yn fonws hyfryd, roedd astudio ger y traeth yn rhywbeth nad oeddwn erioed yn meddwl y byddem yn ei brofi. Roedd enw da a thai fforddiadwy'r Brifysgol hefyd yn fantais enfawr. Roedd e'n teimlo fel y lle cywir i mi dyfu, yn academaidd ac yn bersonol, felly rwy'n falch fy mod wedi gwneud y dewis hwnnw.
Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Gwnaeth fy MSc mewn Seiberddiogelwch o Brifysgol Abertawe roi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol yr oedd eu hangen arnaf i ddechrau ar fy ngyrfa. Roedd cynnwys y cwrs yn hynod berthnasol, gan ganolbwyntio ar heriau'r byd go iawn, a wnaeth fy helpu i feithrin sylfaen gref mewn seiberddiogelwch. Gwnaeth un aseiniad yn benodol gyd-fynd yn uniongyrchol â'r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer fy rôl bresennol, gan fy helpu i lwyddo yn fy nghyfweliad am swydd.
Gwnaeth cymryd rhan yng nghystadlaethau Capture the Flag a phrosiect grŵp academaidd wella fy sgiliau gwaith tîm a datrys problemau, ac roedd y sesiynau ymarferol yn y labordy wedi rhoi'r profiad ymarferol i mi drwy ddefnyddio offer y diwydiant. Roedd arbenigedd ac arweiniad y gyfadran yn amhrisiadwy, yn ogystal â phwyslais y brifysgol ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Gwnaeth y profiadau hyn fy mharatoi i fynd i faes seiberddiogelwch yn hyderus ond hefyd i ffynnu mewn diwydiant sy'n datblygu'n gyflym lle mae sgiliau ymarferol a'r gallu i addasu'n allweddol.
Eich gyrfa
Rwy'n Ymgynghorydd Seiberddiogelwch i Arup, cwmni gwasanaethau proffesiynol amlwladol Prydeinig, yn ei swyddfa yn Llundain yn y tîm Cynghori Seiber ar gyfer UKIMEA. Mae fy rôl yn canolbwyntio ar waith ymgynghori ar seiberddiogelwch ar gyfer isadeiledd cenedlaethol ac amgylchoedd adeiledig o bwys, gan arbenigo mewn technoleg weithredol a systemau rheoli diwydiannol ar draws sectorau megis ynni, trafnidiaeth, rheilffyrdd, meysydd awyr, mannau cyhoeddus, adeiladau clyfar a chanolfannau data. Gan gydweithio'n helaeth ar draws timau traws-swyddogaethol, gan gynnwys TGCh, diogelwch ffisegol, pensaernïaeth, dylunio rhwydweithiau a pheirianneg, rwy'n sicrhau strategaethau seiberddiogelwch cydlynol ar gyfer prosiectau byd-eang. Rwyf hefyd yn gweithio ar brosiect diwydrwydd dyladwy seiber wrth ymgynghori ar fuddsoddiadau busnes, yn enwedig wrth uno a chaffael.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?
Mae seiberddiogelwch yn faes eang, ac mae'n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu i ddechrau. Pan ddechreuais fy MSc, gwnes sylweddoli pa mor eang yw'r maes a chael eglurder ar beth y dylwn ganolbwyntio arno. Fy nghyngor yw y dylech archwilio meysydd gwahanol - technegol, dadansoddol, creadigol a hyd yn oes sgiliau cyfathrebu sydd yr un mor bwysig. Gall ysgrifennu adroddiad clir a manwl fod yr un mor allweddol â datrys heriau technegol. Mae'r farchnad swyddi'n tyfu, ac mae bwlch sgiliau amlwg, felly ceir digon o gyfleoedd os ydych yn benderfynol ac yn gallu addasu. Dylech greu sylfaen gref, ond hefyd ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n gwneud i chi sefyll allan o'r dorf.