Muftau Baruwa
- Gwlad:
- Nigeria
- Cwrs:
- MSc Peirianneg Electronig a Thrydanol gyda Diwydiant
Enw: Muftau Baruwa
Pwnc: MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol
Cenedligrwydd: Nigeraidd (cyfeiriad cartref yng Nghymru)
Pam ddewisais di astudio MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol?
Cefais fy ngradd gyntaf mewn Peirianneg Drydanol, felly penderfynais wella fy ngwybodaeth yn yr un maes drwy ddilyn gradd Meistr, sy'n hybu fy rhagolygon swyddi ar yr un pryd. Ymhen 3 mis ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr roeddwn i'n gallu sicrhau swydd yn fy maes astudio.
Beth oedd dy hoff beth am dy gwrs?
Roedd gen i dri atgof melys am fy nghwrs a oedd wedi'i wneud yn bleserus ac yn werth chweil:
- Roedd y darlithwyr yn hygyrch iawn, felly roedd modd i mi gwrdd â nhw er mwyn egluro meysydd anodd cyn yr arholiadau. Gwnaeth hyn hybu fy mherfformiad a chefais Ragoriaeth yn fy ngradd Meistr.
- Roedd llawer o gyfarpar yn y llyfrgell ac amrywiaeth o fannau astudio ar gyfer astudio'n unigol neu mewn grŵp.
- Roedd rhai nodiadau o ddarlithoedd ar gael ar Blackboard (mae Canvas ar gael nawr) cyn y dosbarth, felly roedd modd i mi baratoi cyn y dosbarthiadau, ac roedd hyn yn gwneud y darlithoedd yn hawdd i'w dilyn ac yn fwy rhyngweithiol.
Pam penderfynais di astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe?
Roedd gan Brifysgol Abertawe'r pynciau craidd mewn Peirianneg Drydanol a oedd o ddiddordeb penodol i fi yn fy ngradd Meistr. Roedd mynediad i'r ystafelloedd gweddïo aml-ffydd yn ddeniadol i mi hefyd.
Beth rwyt ti'n ei fwynhau orau am Abertawe a Phrifysgol Abertawe?
Mae Abertawe yn ddinas heddychlon, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw o yrwyr tacsis i berchnogion siopau a gweithwyr proffesiynol o fri wedi bod yn hyfryd iawn, sy'n gwneud Abertawe'n gartref oddi cartref.
Pa gyngor byddet ti'n ei roi i rywun sy'n meddwl astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe?
Os ydych chi am amgylchedd llonydd ar gyfer dysgu a datblygu, gyda thraeth gerllaw er mwyn ymlacio ar adegau, rydw i'n credu'n gryf mai Abertawe yw eich dewis gorau.
Pam penderfynais di wneud Ymchwil Ôl-raddedig yn Abertawe? Wyt ti'n mwynhau?
Roeddwn i'n awyddus i ddod yn arbenigwr yn fy maes, felly penderfynais ddilyn gradd ymchwil ôl-raddedig. Roedd gen i oruchwylwyr rhagorol a oedd yn darparu arweiniad a chymorth parhaus drwy gydol y rhaglen. Ar hyn o bryd rydw i'n crynhoi, ac roedd modd imi gyhoeddi sawl papur mewn cyfnodolion blaenllaw.
Beth wyt ti’n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau dy Ymchwil Ôl-raddedig?
Rydw i'n gobeithio gweithio i gymhwyso'r wybodaeth a'r arbenigedd rydw i wedi'u cael yn y diwydiant, er mwyn sicrhau ein bod yn newid yn hwylus o ynni a systemau trafnidiaeth sy'n seiliedig ar danwyddau ffosil, i systemau trafnidiaeth ac ynni cynaliadwy, sero-net.