Nursidah Abdullah
- Gwlad:
- Indonesia
- Cwrs:
- MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd
Pam gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd ei bod hi'n cynnig ymagwedd benodol iawn at iechyd cyhoeddus. Drwy gael fy addysgu yma, galla i ymchwilio ymhellach i'r perthnasoedd rhwng pobl ac iechyd.
Allwch chi roi gwybod i ni am eich cwrs a'r hyn rydych chi'n ei fwynhau fwyaf?
Fy nghwrs yw'r MSc Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd. Rwy'n mwynhau sut mae fy narlithydd yn darparu'r modiwl mewn ffordd ryngweithiol iawn. Ar ben hynny, mae fy nghyd-fyfyrwyr yn gyfeillgar iawn
hefyd.
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?
- Y traeth
- Y Ddinas Werdd (Parc Singleton)
- Yr Elyrch
Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Byddwn, yn bendant. Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r prifysgolion gorau yn y DU, ond mae gwybodaeth gyfyngedig ar gael i fyfyrwyr o Indonesia am gyrsiau Prifysgol Abertawe. Rwy'n gobeithio y galla
i wneud cyfraniad mwy at hyrwyddo Prifysgol Abertawe yn Indonesia.