Ruth Cooper

Ruth Cooper

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Ffarmacoleg Feddygol

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe (y ddinas/yr ardal)?

  1. Y traethau hyfryd yn enwedig Bae Caswell!
  2. Digon o siopau coffi annibynnol
  3. Parc Singleton - digon o fannau gwyrdd i'w mwynhau

Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?

Dewisais i astudio yn Abertawe gan nad oeddwn am fod mewn dinas fawr. Mae gan Abertawe gymaint i'w gynnig ond y prif beth i mi oedd pa mor agos yw'r Brifysgol at gynifer o dirweddau naturiol. Roeddwn yn gwybod cyn dechrau ar y radd Fferylliaeth y byddai'n eithaf dwys ar adegau, felly mae cael digon o fannau agored hyfryd yn bwysig i mi gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?

Fy hoff beth am fy nghwrs Fferylliaeth yw faint o brofiad ymarferol rydym yn ei gael, ar y campws drwy efelychiadau a gweithdai yn ogystal â bod ar leoliad gwaith.

Beth rwyt ti'n bwriadu ei wneud ar ôl i ti raddio?

Ar ôl imi raddio, byddaf yn dechrau ar fy Mlwyddyn Hyfforddiant Sylfaen, gan weithio ar draws tri sector (Ysbytai, Meddygfeydd Teulu a Chymuned) cyn cwblhau fy arholiad cofrestru a dod yn fferyllydd sydd wedi'i gofrestru gyda'r GPhC.

Fyddet ti’n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Byddwn! Mae gan Brifysgol Abertawe gymaint i'w gynnig i fyfyrwyr yn academaidd a'r tu hwnt i'th astudiaethau. Mae cynifer o gymdeithasau a thimau chwaraeon gwahanol i gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnig y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Wyt ti’n cymryd rhan mewn tîm chwaraeon, clwb a/neu gymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe?

Ydw, yn ystod fy nhair blynedd gyntaf yn Abertawe, roeddwn yn aelod o Glwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe. Yn fy ail flwyddyn gyda'r clwb, roeddwn yn Swyddog Cit a Chyfryngau'r clwb a oedd y tu hwnt i'm parth cysur ond roedd yn brofiad gwych. Ar hyn o bryd, rwy'n Llywydd Cymdeithas Fferylliaeth Prifysgol Abertawe. Mae'r gymdeithas yn cynnig ystod eang o weithgareddau i aelodau, gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau adolygu a Dawns Raddio ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn olaf. Mae'r gymdeithas yn ffordd wych i fyfyrwyr Fferylliaeth o bob grŵp blwyddyn rannu profiadau am y cwrs a bywyd ehangach yn y brifysgol.

Wyt ti wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai i fyfyrwyr neu gartref yn ystod dy astudiaethau?

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, roeddwn yn byw mewn llety i fyfyrwyr. Roeddwn i’n rhannu fflat â chwe myfyriwr arall o'r flwyddyn gyntaf ac roedd yn ffordd wych o wneud ffrindiau gyda myfyrwyr ar gyrsiau gwahanol, o ardaloedd gwahanol y DU. Byddwn yn bendant yn argymell byw yn y neuaddau i ddarpar fyfyrwyr gan fod hyn yn helpu i feithrin dy annibyniaeth a hefyd byddi di’n cael cymorth myfyrwyr sydd yn yr un sefyllfa â thi.

Wnest ti ymuno â Phrifysgol Abertawe drwy Glirio.Os do - beth oedd dy brofiad o ymuno â'th gwrs drwy Glirio?

Ymunais â Phrifysgol Abertawe drwy Glirio ym mis Awst 2021.  Roedd hi'n frawychus i ddechrau oherwydd COVID-19, gan nad oeddwn wedi gallu ymweld â'r brifysgol am ddiwrnod agored.  Cefais wybod ar fore'r canlyniadau nad oeddwn wedi cael fy newis cyntaf o brifysgol. Ffoniais y llinell glirio yn Abertawe a chefais fy nghyfeirio'n gyflym at yr adran Fferylliaeth. Siaradais ag aelod o staff a wnaeth ofyn am fy rhif UCAS a'm canlyniadau Safon Uwch. Cefais gynnig cyfweliad ar gyfer y bore trannoeth a oedd yn cynnwys prawf cyfrifo bach a phrawf barnu sefyllfaoedd. 15 munud ar ôl fy nghyfweliad, derbyniais e-bost gan y Brifysgol i ddweud fy mod wedi cael cynnig lle ar y cwrs. Roeddwn yn nerfus wrth ddechrau’r cwrs y byddwn yn cael syndrom y ffugiwr ac yn teimlo na fyddwn yn ddigon clyfar i fod yno. Yn hytrach na hynny, mae gennyf grŵp anhygoel o ffrindiau sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol y cwrs a byddant yn ffrindiau am oes.