
Thomas Richards
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg
Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Y ardaloedd prydferth, yr amrywiaeth eang o leoedd i fwyta ac yfed yn y marina ac yn y dref, ac rydw i'n teimlo bod pawb yn hynod gyfeillgar a neis.
Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
Roedd gen i ffrind a wnaeth radd peirianneg yn Abertawe. O ran clirio, roeddwn i eisiau gwybod ei farn am y Brifysgol a'r Ddinas. Roedd yn gadarnhaol iawn am y staff addysgu, yr offer a pha mor fodern oedd y campws newydd a'i gyfleusterau.
Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?
Fy hoff beth yw pa mor gefnogol mae'r adran wedi bod, ynghyd â pha mor dda maen nhw wedi fy mharatoi i lwyddo mewn amgylchedd proffesiynol. Rwyf hefyd wedi gweld perthnasedd uniongyrchol y modiwlau a'r addysgu yn y byd go iawn yn ystod Lleoliadau gwaith dros yr haf, felly rwy'n gwybod bod y sgiliau rwy'n eu dysgu yn bwysig i gyflogwyr.
A wnes di ymuno â ni o'r Flwyddyn Sylfaen?Os do – beth yw dy brofiad o hyn?
Do, helpodd y flwyddyn sylfaen i mi ddod i'r afael â hanfodion peirianneg eto. Fe wnaeth gallu gwneud modiwlau byrion o wahanol ddisgyblaethau peirianneg fy helpu i fireinio fy arbenigedd hefyd, yr oeddwn yn gallu ei ddewis wrth basio'r flwyddyn sylfaen. Roedd hyn yn hynod ddefnyddiol ac er gwaethaf ei fod yn gymaint o her, rwy'n falch iawn fy mod i wedi mynd drwyddo.
Beth rwyt ti'n bwriadu ei wneud ar ôl i ti raddio?
Rydw i wrth fy modd yn cael mynd i'r gwaith a defnyddio'r wybodaeth rydw i wedi'i dysgu yn fy ngradd Israddedig. Alla i ddim aros i wneud gwaith peirianneg sy'n gwneud gwahaniaeth mewn maes sy'n gyffrous!
Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn, byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe o waelod calon i unrhyw fyfyrwyr sy'n ei hystyried. Mae'r campws newydd, ynghyd â lleoliad hardd ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r campws, yn golygu pan fyddaf yn y brifysgol, fy mod yn gynhyrchiol gydag adnoddau anhygoel, a phan fyddaf oddi ar y campws mae'n hawdd iawn ymlacio a chael hwyl.
Wyt ti wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'th gwrs (Blwyddyn mewn Diwydiant)?
Rydw i wedi llwyddo i wneud 3 lleoliad. Rhwng y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn roeddwn i'n gallu bod yn gynorthwy-ydd ymchwil gyda myfyriwr Doethuriaeth Peirianneg. Hwyluswyd hyn gan academyddion Deunyddiau yn y brifysgol a oedd yn fodlon fy nghyflogi i gynyddu fy sgiliau peirianneg. Rhwng yr ail flwyddyn a'r drydedd flwyddyn roeddwn i'n gallu gwneud lleoliad haf gyda chwmni peirianneg celloedd tanwydd. Roedd hyn yn help mawr i mi ddatblygu fy ngwybodaeth am ddeunyddiau mewn amgylchedd proffesiynol. Ar ôl y drydedd flwyddyn, rydw i'n mynd i Red Bull Powertrains i weithio ar uned bŵer F1 2026, rhywbeth rydw i'n gyffrous iawn amdano ac yn falch o fod yn ei wneud.
Os yn berthnasol, pa gyfleusterau wyt ti wedi mwynhau eu defnyddio fel rhan o dy gwrs a pham?
YGallwn ddewis rhoi cynnig ar Ficrosgopau Electronau Sganio a dulliau profi dinistriol eraill. Roeddwn yn teimlo bod hyn yn hynod ddefnyddiol wrth i mi chwilio am leoliadau gan fod cyflogwyr yn hoffi gwybod bod profiad gen i o brofi gwahanol ddefnyddiau.
Wnest ti ymuno â Phrifysgol Abertawe drwy Glirio. Os do - beth oedd dy brofiad o ymuno â'th gwrs drwy Glirio?
Do, as fe'i gwelais yn broses syml a hawdd iawn. Cofrestrais fy niddordeb, cefais yr e-bost i ddweud bod clirio ar agor a roeddwn yn gallu gwneud cais. Yn fuan ar ôl i mi wneud fy nghais, cefais gynnig a’i dderbyn ar ôl ymchwilio i’r brifysgol. Es i ddiwrnod agored a siaradais â chyfoedion roeddwn i'n eu hadnabod a oedd wedi mynd i Abertawe. Roedd y cyfan yn rhyfeddol o hawdd.