
Victoria Jenkins
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- MA Ysgrifennu Creadigol
Eich gyrfa
Ers 2017, rwyf wedi cael fy nghyhoeddi gan Bookouture, gwasgnod Hachette. Cyrhaeddodd fy llyfr cyntaf, The Girls in the Water, rif pump yn siartiau Kindle yr Unol Daleithiau. Rydw i wedi cyhoeddi pedair nofel gweithdrefnau’r heddlu ac un ar ddeg nofel o gyffro seicolegol. Gyda'i gilydd, mae fy llyfrau wedi gwerthu bron dri chwarter miliwn o gopïau, ac mae fy nghyfres drosedd wedi'i chyfieithu i'r Dsieceg a'r Bwyleg. Mae tri o fy nofelau cyffro seicolegol yn cael eu cyfieithu i'r Almaeneg eleni.
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/yr ardal)?
Mae lleoliad y brifysgol yn fendigedig - dydw i ddim yn gwybod am unman arall lle gallwch chi fyw ac astudio mor agos at y môr, gyda'r Mwmbwls dafliad carreg o’r Brifysgol. Mae'r ddinas yn lle bywiog i fyfyrwyr, ac i'r rhai hynny sy'n cwblhau cyrsiau mewn Llenyddiaeth/Ysgrifennu, mae lleoliadau fel Canolfan Dylan Thomas yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Mae staff y brifysgol yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac mae'n amgylchedd cefnogol a meithringar.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Treuliais fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr israddedig yn Abertawe, ond bu’n rhaid i mi drosglwyddo i brifysgol arall ar gyfer ail flwyddyn fy ngradd. Roedd y penderfyniad yn anodd, ac roeddwn i bob amser wedi gobeithio dychwelyd i astudio yn Abertawe, felly roeddwn i wrth fy modd pan ges i le ar y cwrs MA. Roedd enw da’r staff a hyblygrwydd y cwrs dysgu yn ddeniadol. Yn ystod fy astudiaethau fe wnes gwrdd â phobl anhygoel a chreu atgofion gydol oes. Fe wnaeth atgyfnerthu yn llwyr fy awydd i ddilyn ysgrifennu fel gyrfa.
Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn i'n argymell Abertawe am arbenigedd y staff, yr amgylchedd dysgu cefnogol a lleoliad delfrydol Campws Singleton.
Sut wnaeth dy radd dy baratoi ar gyfer dy yrfa?
Cefais wybodaeth bwysig ar gyflwyno gwaith i asiantau, yn ogystal â chynnig am gystadlaethau ysgrifennu (mae rhai ohonynt yn fawreddog a gallant arwain at gyfleoedd amhrisiadwy). Galluogodd y cwrs - a oedd yn cynnwys ysgrifennu barddoniaeth, ysgrifennu sgrîn, rhyddiaith, newyddiaduraeth ac ysgrifennu sgriptiau - i mi nodi ble roedd fy nghryfderau, a chafodd fy sgiliau ysgrifennu a golygu eu mireinio. Yn bwysicaf oll, yn ystod y cwrs MA y dechreuais gredu yn y posibilrwydd o ysgrifennu fel gyrfa - rhywbeth a oedd wedi'i labelu gan eraill yn flaenorol fel breuddwyd. Helpodd brwdfrydedd a chymorth fy mentoriaid i gadarnhau fy uchelgeisiau, a dysgais yr amynedd a'r gwydnwch i wrthsefyll y gwrthodiadau y mae'r diwydiant cyhoeddi yn enwog amdanynt.