Xinyue Lin

Xinyue Lin

Gwlad:
China
Cwrs:
BSc Rheoli Busnes

Fy enw i yw Xinyue Lin, dwi o Tsieina ac rwy'n astudio Rheoli Busnes Byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe.
Dewisais Abertawe am fod y Brifysgol yn safle 83 yn y Byd yn ôl Safleoedd Byd-eang QS o ran yr Ysgol Fusnes.


Rwy'n fyfyriwr Tsieineaidd traddodiadol, a phan ddechreuais yn Abertawe doedd fy sgiliau gwrando a siarad yn Saesneg ddim yn dda iawn. Sylweddolais fod gen i fwlch wrth astudio a chwblhau fy asesiadau. Wrth gychwyn, cefais radd eithaf isel ond diolch i'm hymdrechion fy hun, a'r addysgu (mae'r darlithwyr a'r cyd-ddisgyblion yn gyfeillgar ac yn garedig iawn), roeddwn i'n gallu dysgu sut i gwblhau'r asesiadau yn dda, a nawr rwy'n gobeithio cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf wrth raddio.


Hoffwn fod yn berson busnes yn y dyfodol, i ganolbwyntio ar y cyfryngau neu efallai'r llywodraeth, neu o bosib busnesau preifat. Rwy'n credu bod eleni wedi gwella fy ngwybodaeth ond hefyd fy sgiliau ymarferol mewn rheoli a busnes. Dysgais hefyd iaith ddefnyddiol iawn o'r dosbarth hwn ac wedi gwella fy sgiliau Saesneg.


Yn ystod fy amser yn Abertawe, rydw i wedi mynychu llawer o glybiau, fel y K-Pop Club a'r Clwb Dawns. Mae'r cymdeithasau yn Abertawe hefyd yn gyfeillgar iawn – gallwch fwynhau beth bynnag rydych chi'n hoffi ei wneud, ac maen nhw bob amser yn cynnig amser a lle hamddenol.


Rwy'n fyfyriwr 3 + 1 yn Tsieina, felly rydw i wedi cwblhau tair blynedd ym Mhrifysgol Zhejiang Sci-Tech, ac wedi ymuno â'r Radd Ychwanegol Rheoli Busnes i ennill gradd gyffredinol o safon uwch. Rwyf hefyd am fynd ymlaen i wneud astudiaethau ôl-raddedig yn Lloegr, Awstralia neu Hong Kong. Felly, y Radd Atodol yw'r mynydd cyntaf i'w ddringo cyn i mi gyflwyno cais am fy ngradd meistr – os ydych chi'n dewis Gradd Atodol ym Mhrifysgol Abertawe, yna rwy'n credu y bydd yn dda iawn i'ch dyfodol.