Holding the world

Ariannwyd gan UKRI

Cefnogwyd y gwaith hwn gan grant thema strategol Adeiladu Dyfodol Gwyrdd Ymchwil ac Arloesi yn y DU [UKRI239].

Ein Gweledigaeth

Bydd Canolfan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn defnyddio galluoedd ymchwil a modelau busnes arloesol i ddatblygu bioblaladdwyr, gwrteithion biolegol, technolegau adfer gwastraff a chyfansoddion gwerth uchel er budd twf economaidd a datblygu cynaliadwy mewn cynhyrchion naturiol.

Ein gweledigaeth gyffredinol yw:

  • Sbarduno biotechnoleg werdd: cynhyrchion newydd, busnesau newydd a buddsoddi newydd
  • Ysbrydoli dyfodol optimistaidd lle mae diwydiannau'n gwella lles a'r amgylchedd
  • Creu canolfan ragoriaeth ymchwil a datblygu trosiadol ar gyfer ffyngau ac algâu

Gweithgarwch y BioHYB Cynhyrchion Naturiol

Ers sefydlu'r BioHYB, rydym wedi:

  • Ymgysylltu â 144 o gwmnïau
  • Cychwyn 14 prosiect gwerth £805,000
  • Cyflwyno ceisiadau am 14 grant gwerth £13M
  • Trefnu 9 digwyddiad i randdeiliaid - 550+ o gyfranogwyr o fyd diwydiant, y gymuned academaidd a'r gymuned leol

Galw'r Farchnad

Prif bwrpas Canolfan yr Economi Werdd yw datblygu atebion ar sail biotechnoleg o ficrobau ewcaryotig megis ffyngau ac algâu sy’n cynnig:

  • Gwell effeithlonrwydd wrth gynhyrchu biomas
  • Gwell cynaliadwyedd
  • Mynediad at fioamrywiaeth nad yw wedi’i hecsbloetio’n helaeth a hawdd ei thrin
  • Cymwysiadau waith mewn sectorau amrywiol

Ysgogir y Ganolfan gan