Cwmnïau sy'n Cefnogi ein Cenhadaeth
Yn chwilfrydig am y cwmnïau anhygoel sy'n cefnogi ein cenhadaeth i feithrin economi werdd yn rhanbarth Abertawe? Rhowch gipolwg yma >>
Yn chwilfrydig am y cwmnïau anhygoel sy'n cefnogi ein cenhadaeth i feithrin economi werdd yn rhanbarth Abertawe? Rhowch gipolwg yma >>
"Mae gan Ganolfan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol y potensial i fod ar flaen y gad mewn tirwedd arloesi sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannu gwyrdd y dyfodol. Gall roi'r DU gyfan mewn sefyllfa i ddatblygu ecosystem sy'n cyflawni ein nodau'n gynt yn yr economi werdd."
Abi Phillips - Pennaeth y Grŵp Arloesi, Economi, Ynni a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru
"Mae'r fenter hon yn elfen hollbwysig o'n strategaeth ranbarthol ehangach i sbarduno twf economaidd ac arloesi yn unol â Chynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru."
Rob Stewart - Arweinydd Cyngor Abertawe a Chynghorydd Ward
"Mae Canolfan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn manteisio ar gryfderau ac arbenigedd gan bartneriaid wedi'u creu ar y cyd er mwyn diwallu anghenion allweddol diwydiant a buddiolwyr dinesig. Mae'r fenter hon yn cydweddu'n berffaith ag ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddsoddi mewn mentrau gwyrdd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd."
Julie James - Aelod o'r Senedd
"Hoffwn fynegi cefnogaeth barhaus Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer Canolfan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, sydd â'r nod o hwyluso twf y sector cynhyrchion naturiol sy'n datblygu yn ne Cymru. Rydym o'r farn bod y fenter hon yn strategol ar gyfer y rhanbarth, wrth helpu i greu'r ecosystem ddiwydiannol werdd ar sail technoleg, a hynny ar adeg o newid sylweddol yn y sylfaen ddiwydiannol draddodiadol ar gyfer y diwydiant dur yn ne Cymru."
Dr Jonathan Burnes - Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Rydym wedi dynodi cronfa gyfatebol i ehangu galluoedd ac effaith Canolfan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol. Bydd y cydweithrediad hwn yn manteisio i'r eithaf ar ein cryfderau ar y cyd i feithrin ecosystem ffyniannus ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes cynhyrchion naturiol a biotechnolegau.
Carwyn Davies - Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments