Busnes Cymru
Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol a ariennir yn llawn er mwyn cefnogi pobl yng Nghymru sy'n sefydlu, yn cynnal ac yn tyfu busnesau. Rydym yn helpu darpar berchnogion busnes i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu ar eu taith i sefydlu busnes.
Porthladd Rhydd Celtaidd
Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot a'i nod yw sbarduno economi carbon isel yng nghadarnle diwydiannol Cymru. Mae'n cynnig cymhellion treth, tollau wedi'u symleiddio a chymorth y llywodraeth ar gyfer prosiectau ynni, hydrogen, dur a logisteg.
Banc Datblygu Cymru
Rydym yn ariannu busnesau a fydd, yn ein barn ni, o fudd i Gymru a'i phobl, y rhai a fydd yn creu crychdonnau o dwf. Y rhai sy'n fwy na model busnes da neu syniad gwych. Rydym yn ariannu busnesau cyfrifol - y rhai hynny sydd â safonau cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol cryf, yn ogystal ag addewid masnachol cadarn.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n gofalu am yr amgylchedd, pobl a natur. Dysgwch ragor am risg llifogydd, lefelau afonydd, hawlenni, ardaloedd gwarchodedig, gwastraff a mwy.
Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad gwerth hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe - mae'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Yn amodol ar gymeradwyaeth achosion busnes prosiectau, ariennir y Fargen Ddinesig gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnwys: