People

Cydweithio â Busnes a Diwydiant: Arloesi Gyda'n Gilydd ar gyfer Twf Cynaliadwy

Mae’r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn gweithio law yn llaw gyda busnesau—o gwmnïau newydd i fentrau sefydledig—i gyd-ddatblygu atebion cynnyrch naturiol sy'n hybu cynaliadwyedd a mantais gystadleuol.

Sut Rydym yn Cefnogi Diwydiant

  • Ymchwil a Datblygu ar y cyd: Partneru â'n harbenigwyr i arloesi cynhyrchion newydd sy’n seiliedig ar ddeunydd biolegol, o'r cysyniad i atebion parod ar gyfer y farchnad.
  • Mynediad at Gyfleusterau Arloesol: Manteisio ar ein labordai o'r radd flaenaf, ein cynhyrchu ar raddfa beilot, a'n llwyfannau dadansoddol i gyflymu datblygu cynnyrch.
  • Atebion wedi'u Teilwra: Prosiectau wedi'u teilwra i ddiwallu eich heriau unigryw a'ch nodau busnes, gyda ffocws ar gymwysiadau ymarferol mewn amaethyddiaeth, gofal iechyd, cynnyrch cosmetig, a mwy.
  • Cymorth Cyllid a Grantiau: Arweiniad a chymorth i lywio cyfleoedd cyllido a grantiau cydweithredol i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad.

Pam Cydweithio â ni?

Mae ein tîm rhyngddisgyblaethol yn pontio gwyddoniaeth a diwydiant, gan gyflawni canlyniadau sy'n lleihau effaith amgylcheddol wrth wella gwerth cynnyrch. Drwy gydweithio â ni, rydych chi'n ennill:

  • Arbenigedd mewn cynhyrchion naturiol a biodechnoleg gynaliadwy
  • Ecosystem arloesi hyblyg sy'n meithrin prototeipio ac uwch-raddio’n gyflym iawn
  • Cysylltiadau cryf â rhwydweithiau arloesi rhanbarthol a chenedlaethol

Ewch amdani

Rydym yn gwahodd busnesau ar draws sectorau i gysylltu â ni. P'un a ydych chi am wneud ymchwil ar y cyd, datblygu contractau, neu drwyddedu technoleg, mae'r BioHYB yn cynnig platfform deinamig i gefnogi eich taith arloesi.

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gallwn gydweithio i greu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion naturiol cynaliadwy.