Document

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol ym Mhrifysgol Abertawe'n prosesu'r data personol a gesglir gan y prosiect. Caiff data ei gasglu at ddibenion adrodd a gwerthuso fel y'i disgrifir isod. Mae Prifysgol Abertawe wedi'i chofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac mae'n gyfrifol yn gyfreithiol am gydymffurfio â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (DU-GDPR). Mae Prifysgol Abertawe'n  ymrwymedig i ofalu am unrhyw wybodaeth sy'n cael ei darparu i ni, yn unol â'r rheoliadau hynny.

Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd BioHYB Cynhyrchion Naturiol ym Mhrifysgol Abertawe yn casglu, yn cadw ac yn prosesu eich data personol. Drwy gydol yr Hysbysiad hwn, mae "ni", "ein" a "ninnau" yn cyfeirio at BioHYB Cynhyrchion Naturiol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae "chi" ac "eich" yn cyfeirio at y rhai hynny sy'n cyflenwi data personol fel rhan o'u rhyngweithio â'r prosiect.

Er mwyn sicrhau ein bod yn prosesu eich data personol yn deg ac yn gyfreithlon, mae'n ofynnol i ni eich hysbysu:

  • Pam rydym yn casglu eich data
  • Sut y bydd yn cael ei ddefnyddio
  • Â phwy y caiff ei rannu

Byddwn hefyd yn egluro pa hawliau sydd gennych i reoli sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a sut i roi gwybod i ni am eich dymuniadau. Bydd BioHYB Cynhyrchion Naturiol ym Mhrifysgol Abertawe yn sicrhau bod yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gael ar yr adeg y byddwn yn gofyn am ddata personol.