Document

Datganiad Cenhadaeth

Cenhadaeth y BioHYB Cynhyrchion Naturiol (NPBioHUB) yw hwyluso gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid a hyrwyddo arloesi wrth roi cynhyrchion naturiol ar waith a'u masnacheiddio.

Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn ymdrechu i sefydlu rhwydwaith byd-eang o bartneriaid academaidd, diwydiannol a sifil sydd â'i ganolbwynt ym Mhrifysgol Abertawe, ac mewn cydweithrediad â Chymdeithas Gwyddor y Môr yr Alban (SAMS) a CABI. Gyda'n gilydd, rydym yn canolbwyntio ar hyrwyddo ymchwil i gynhyrchion naturiol, eu datblygu a'u masnacheiddio.