
I fod yn effeithiol, mae IPM yn galw ar sectorau gwahanol i gydweithio, yn enwedig byd diwydiant a'r byd academaidd a'r awdurdodau rheoleiddio.
Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn falch o gael cefnogi cynhadledd ryngwladol o bwys New IPM:Ymagwedd Fodern ac Amlddisgyblaethol at Warchod Cnydau. Cynhelir y digwyddiad gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chymdeithas Ryngwladol Cynhyrchwyr Bioreolaeth y DU, a bydd yn dod ag arbenigwyr ynghyd mewn Rheoli Plâu yn Integredig (IPM).
Mae IPM yn newid yn gyflym wrth i dechnolegau modern, megis synwyryddion electronig, arolygwyr cnydau robotig a dronau, ddod yn fwy normal wrth gynhyrchu cnydau mewn amgylcheddau gwarchodedig ac ar dir âr.
Er mwyn i reoli plâu mewn modd integredig fod yn effeithiol, mae'n rhaid i sectorau gwahanol weithio gyda'i gilydd, yn enwedig byd diwydiant, y byd academaidd ac awdurdodau rheoleiddio. Nod y gynhadledd yw dod â phawb sy'n rhan o'r gadwyn amaeth-fusnes ynghyd, i gyflwyno a thrafod datblygiadau newydd a sut y maen nhw'n cael eu gweithredu wrth warchod cnydau.
Caiff y symposiwm ei ddilyn gan ddigwyddiad rhwydweithio AM DDIM.Bydd y sesiwn rwydweithio hon, a drefnir gan Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe ac a gefnogir gan SCoRE Cymru, yn cynnig y cyfle i ddiwydiant a byd academaidd Cymru rwydweithio â phartneriaid rhyngwladol.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gyfleoedd am gyllid o ffynonellau yn y DU a'r UE, yn benodol, Clwstwr 6 Horizon Ewrop (Bwyd, Bioeconomi, Adnoddau Naturiol, Amaethyddiaeth, a'r amgylchedd) a galwadau perthnasol o ran iechyd planhigion, isadeiledd gwydn a phlaladdwyr risg isel.