Rheoli Plâu yn Integredig (IPM)
Symposiwm 2025 New IPM - Working Together
Yn dilyn y llwyddiant a'r twf yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae'n bleser gan IBMA UK a'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol gyhoeddi Symposiwm 'NewIPM - Working Together' a gynhelir rhwng 8 a 10 Medi 2025 yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe, Abertawe, y DU.
Bydd y symposiwm hwn yn dod ag arbenigwyr o ymchwil ryngddisgyblaethol, diwydiant, tyfwyr, llunwyr polisi, cyllidwyr, a rhanddeiliaid buddsoddiad ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf ym maes IPM. Bydd y pynciau'n cynnwys bioreolaeth, defnyddio cynhyrchion microbaidd a naturiol fel biosymbylyddion a bioblaladdwyr, yn ogystal â defnyddio microbau amlswyddogaethol er mwyn gwella cynhyrchu ac amddiffyn cnydau. Bydd y digwyddiad hefyd yn archwilio iechyd pridd, IPM mewn coedwigaeth, a rôl IPM wrth ddiogelu bioamrywiaeth, yn enwedig peillwyr megis gwenyn.
Nodwedd allweddol o'r symposiwm yw ei fod yn canolbwyntio ar gydweithredu ar draws sectorau. Bydd sesiynau'n trafod technolegau arloesol megis deallusrwydd artiffisial, roboteg, a seicoleg defnyddwyr wrth ddatblygu a gweithredu cynhyrchion a strategaethau IPM. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig cyfleoedd i arddangos a rhwydweithio, gan feithrin partneriaethau traws-sector.
Bydd sesiwn benodol hefyd yn mynd i'r afael â chyfleoedd ariannu a buddsoddi ar gyfer ymchwil gydweithredol, datblygu cynnyrch, a thwf busnes.