NEW IPM: YMAGWEDD FODERN AC AMLDDISGYBLAETHOL AT WARCHOD CNYDAU
12-14 Medi 2022, Prifysgol Abertawe, Cymru, y DU
Mae IPM yn newid yn gyflym wrth i dechnolegau modern, megis synwyryddion electronig, arolygwyr cnydau robotig a dronau, ddod yn fwy normal wrth gynhyrchu cnydau mewn amgylcheddau gwarchodedig ac ar dir âr.
Mae cynhadledd New IPM yn gyfle i bawb sy'n rhan o'r gadwyn amaeth-fusnes ddod ynghyd, i gyflwyno a thrafod datblygiadau newydd a sut y maen nhw'n cael eu gweithredu wrth amddiffyn cnydau.
Mae'n ddigwyddiad unigryw sy'n dod â diwydianwyr ac ymchwilwyr blaenllaw ynghyd i rannu ymagweddau a phrofiadau yn y maes strategol hwn. Bydd y sesiynau'n cynnwys:
- IPM - Heriau ac Atebion
- IPM - Cynnyrch a Strategaethau Newydd
- Botanegwyr, Semiogemegion, Monitro Plâu, IPM Cnydau Perllan a Chaeau
- Cyfrwng Bioreolaeth Microbaidd
- Synhwyro o bell a cherbydau awyr di-griw
- Cofrestru Macrobialau a'u Dyfodol
- Defnyddio Gwyddor Gyfrifiadol ar gyfer Rheoli Plâu
- Microbau Amlswyddogaethol - Endoffytau, symbylyddion twf/gwydnwch
- Datganiadau
- Gwneud Penderfyniadau a Chynllunio Hirdymor ar gyfer IPM Llwyddiannus
Ar ôl y symposiwm, cynhelir Cymorth Cyllid Ymchwil a Datblygu Cydweithredol am ddim ddydd Mercher 14 Medi 2022. Bydd y sesiwn rwydweithio hon, a drefnir gan Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe ac a gefnogir gan SCoRE Cymru, yn cynnig y cyfle i ddiwydiant a byd academaidd Cymru rwydweithio â phartneriaid rhyngwladol.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gyfleoedd am gyllid o ffynonellau yn y DU a'r UE, yn benodol, Clwstwr 6 Horizon Ewrop (Bwyd, Bioeconomi, Adnoddau Naturiol, Amaethyddiaeth, a'r amgylchedd) a galwadau perthnasol o ran iechyd planhigion, isadeiledd gwydn a phlaladdwyr risg isel.