New IPM: One Health, 5-7 Medi 2023

Banner

Gwybodaeth am New IPM 2023: One Health

Ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei dewis i gynnal y digwyddiad mawr ei fri hwn, sy'n canolbwyntio ar raglenni arloesi newydd a rhaglenni sy'n cael eu datblygu ym maes IPM. Mae'r symposiwm, a arweinir gan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol ac IBMA, yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilwyr, technolegwyr a defnyddwyr glywed gan bobl eraill sy'n gweithio yn y maes a rhannu syniadau. Gan fod cyswllt anorfod rhwng iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion a'r amgylchedd, mae 'One Health' yn ymagwedd integredig ac unedig sydd â’r nod o gydbwyso a gwella iechyd pobl, anifeiliaid ac ecosystemau mewn ffordd gynaliadwy. Nod rhaglenni IPM yw lleihau mewnbynnau plaladdwyr sy'n niweidiol i bobl a'r amgylchedd, ac o ganlyniad mae'r rhaglenni'n cyfrannu at weledigaeth fyd-eang 'One Health'.

Beth yw IPM?

Mae IPM yn ymagwedd sy'n seiliedig ar yr ecosystem er mwyn datrys problemau plaladdwyr tra hefyd yn lleihau'r risgiau i bobl a'r amgylchedd. Mae enghreifftiau arloesol sy'n defnyddio technolegau modern yn cynnwys synwyryddion electronig, arolygwyr cnydau robotig a goleuadau ynni-isel yn y sector garddwriaethol. Nid yw'r 'ymagwedd uwch-dechnoleg hon' ar gyfer cnydau gwarchodedig yn unig, oherwydd mae technoleg drôn, delweddau lloeren a mapio maetholion yn newid y ffordd y mae ffermwyr tir âr a ffermwyr coed ffrwythau yn mynd i'r afael â phroblemau, drwy ddarparu lefel o wybodaeth fanwl, sydd bron yn ddiderfyn, ac sy'n helpu'r tyfwr mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

Oriel

Gallery