IPM 2024

NEW IPM 2024 - Emerging Opportunities

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, roedd Prifysgol Abertawe'n falch o gynnal y New IPM Symposium mawr ei fri, a oedd yn canolbwyntio ar raglenni arloesol newydd a rhaglenni sy'n esblygu ym maes IPM. Roedd y symposiwm, a arweiniwyd gan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol ac IBMA, yn cynnig platfform unigryw i ymchwilwyr, technolegwyr, a defnyddwyr ymgysylltu â chydweithwyr yn y maes, gan eu galluogi i rannu syniadau.

Mae IPM yn strategaeth sydd wedi'i chydlynu a'i threfnu er mwyn atal, canfod a rheoli pryfed sy'n blâu sy'n effeithio ar gynhyrchu bwyd, iechyd pobl ac anifeiliaid. Roedd symposiwm 2024 yn archwilio cyfleoedd newydd ac yn amlygu datblygiadau a chyfleoedd i gydweithredu ar draws sectorau megis amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd.

Roedd NewIPM Symposium 2024 yn canolbwyntio ar gyfleoedd newydd ym maes amddiffyniad cnydau a rheoli pryfed sy'n cludo clefydau pobl ac anifeiliaid mewn ffordd amgylcheddol gyfeillgar. Roedd y digwyddiad yn tanlinellu ymagweddau rhyngddisgyblaethol ac ymchwil arloesol, gan fynd i'r afael â'r heriau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a'r galw cynyddol am fwyd.

Darparodd y digwyddiad New IPM - Emerging Opportunities 2024 blatfform unigryw drwy:

  • Ganolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud ag IPM
  • Integreiddio disgyblaethau a sectorau gwahanol (e.e. bioblaladdwyr, cyfrifiadol/Deallusrwydd Artiffisial, peirianneg, iechyd, diogelwch bwyd, newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd)
  • Annog mwy o ymgysylltu â diwydiant
  • Hwyluso digwyddiadau rhwydweithio sy'n arwain at gonsortia yn ymgeisio am grantiau (e.e. Innovate, etc.), gan feithrin cydweithrediad sydd â budd cydfuddiannol
  • Creu amgylchedd ar gyfer arddangosiadau cynnyrch a strategaeth