Trosolwg grŵp
Mae'r grŵp yn defnyddio technegau mathemategol a chyfrifiadurol o'r radd flaenaf i fynd i'r afael â phroblemau ymchwil o'r biowyddorau, y gwyddorau bywyd a meddyginiaeth. Ein nod yw datblygu modelau ac ymagweddau mathemategol ac ystadegol rhagfynegol i fynd i'r afael â chwestiynau cyfoes sy'n berthnasol yn fiolegol. Mae arbenigedd aelodau'r grŵp yn cynnwys modelu mathemategol, cyfrifiadureg wyddonol, hafaliadau differol rhannol a phrosesau stocastig, ac rydym yn rhan o gydweithrediad amlddisgyblaethol ag academyddion o'r biowyddorau, y gwyddorau bywyd a pheirianneg gyfrifiadurol yn ogystal â gwyddonwyr sy'n gweithio ym maes gofal iechyd a'r sector diwydiannol.