Yn thema Cynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol y Biowyddorau, rydyn ni'n mynd i'r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol enbyd megis llygredd, ymwrthedd gwrthficrobaidd, a cholli bioamrywiaeth drwy gyfrwng ymchwil ryngddisgyblaethol sylfaenol a chymhwysol.

Drwy ddatgloi potensial biocemegol systemau naturiol a deall prosesau metabolaidd craidd, rydyn ni'n datblygu arloesiadau cynaliadwy sy'n lleihau effaith ecolegol ac sy'n cryfhau gwydnwch ecosystemau. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddarganfod cyfansoddion bioactif, llwybrau bioddiraddio, ac ymatebion sy'n seiliedig ar natur er mwyn gwella iechyd yr amgylchedd.

Drwy gydweithio'n agos â phartneriaid academaidd, partneriaid ym myd diwydiant, partneriaid polisi a'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol, rydyn ni'n troi darganfyddiadau gwyddonol yn gymwysiadau byd go iawn sy'n cefnogi dyfodol mwy cynaliadwy a gwydn.

Cysylltwch ag arweinwyr thema Cynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol, yr Athro Eva Sonnenschein neu'r myfyriwr PhD Shumukh Alharti os oes gennych ymholiadau.