Yr Her
Wrth i boblogaeth y byd gynyddu, mae'r angen i gynhyrchu bwyd wedi dod yn fwy pwysig. Fodd bynnag, mae plâu cnydau'n peri un o'r bygythiadau mwyaf i gynhyrchu bwyd, gan achosi hyd at 40% o niwed i gnydau oherwydd bwyta a 100% o golled cnydau drwy ymledu clefydau. Er enghraifft, mae plâu, megis y chwilen chwannen coesyn bresych, yn dodwy wyau pan fydd y cnydau'n cael eu hau ac mae'r larfâu sy'n dod allan o'r wyau'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu o'r tu mewn i'r coesyn, gan ladd y planhigyn.
Mae tymereddau byd uwch a dulliau ffermio dwys wedi cyfrannu at fynychder plâu hefyd, gan eu galluogi i ymledu'n gyflymach i ardaloedd lle na fuont o'r blaen.
Mae 70% o bryfladdwyr cemegol, megis neonicotinoidau, wedi cael eu gwahardd yn y DU a'r rhan fwyaf o Ewrop oherwydd eu priodweddau carsinogenig, eu peryglon i iechyd a'u niwed i'r amgylchedd. O ganlyniad i hynny, mae angen dybryd i ymchwilio a datblygu ffyrdd amgen o reoli plâu cnydau gan ddefnyddio cynhyrchion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Y Dull
Cafwyd llawer o ddiddordeb mewn bioblaladdwyr i reoli plâu ac mae galw mawr am y rhain oherwydd eu bod yn ddiwenwyn ac maent yn gallu niweidio, gwrthyrru neu ladd plâu'n effeithiol.
Mae ffyngau wedi cael eu hadnabod fel plaladdwyr naturiol effeithiol sy'n achosi clefyd ymysg plâu pryfed. Fodd bynnag, oherwydd bod ffyngau'n organebau byw, gellid eu niweidio yn ystod y camau cynhyrchu, storio a chymhwyso, gan leihau eu heffeithiolrwydd. Felly, mae'n bwysig deall mecanweithiau firwledd ac optimeiddio technolegau cynhyrchu i wella effeithiolrwydd dan amodau maes.
Yr Effaith
Ar hyn o bryd, mae rhai cynhyrchion ar gael yn fasnachol mewn rhannau o UDA ac Ewrop ond cyfyngir ar eu defnydd ym maes cynhyrchu bwyd. Er bod heriau'n codi wrth ddatblygu'r cynhyrchion hyn ar raddfa ddiwydiannol, megis costau, ceir manteision sylweddol. Mae'r BioHyb Cynhyrchion Naturiol ym Mhrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yn datblygu atebion cynhyrchion naturiol sy'n seiliedig ar ficrobau ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiannau eraill sy'n ddiogel ar gyfer iechyd pobl ac anifeiliaid a'r amgylchedd.