Trosolwg grŵp
Nod y Labordy Macroesblygiad ac Ecoleg Anifeiliaid Gwenwynig (METALab) yw deall tarddiad ac esblygiad bioamrywiaeth, gan ganolbwyntio ar anifeiliaid gwenwynig. Grŵp ymchwil Dr Kevin Arbuckle yw hwn ac mae'n canolbwyntio ar gymhwyso ymagwedd gymharol esblygol i amrywiaeth eang o broblemau o natur sylfaenol, gyda chamau achlysurol mewn cyfeiriad mwy cymhwysol. Mae meysydd eang o ymchwil yn cynnwys esblygiad anifeiliaid gwenwynig a'u gwenwyn, y cysylltiad rhwng nodweddion organebau (megis arfau cemegol) ac arallgyfeirio esblygol, ecoleg ymddygiadol amddiffyniad gwrth-ysglyfaethol, ac esblygiad cydgyfeiriol. Fodd bynnag, mae ymchwil yn y METALab wedi amrywio o fagu anifeiliaid ecsotig i ecoleg ymddygiad bodau dynol gan fod cwmpas gwaith Dr Arbuckle yn amlddisgyblaethol. Ar hyn o bryd, mae METALab yn gweithio ar systemau astudio megis anifeiliaid di-asgwrn-cefn, pysgod, mamaliaid ac adar, ond mae ganddo ffocws enwedig o gryf ar amffibiaid ac ymlusgiaid.