Testun tudalen we ‘Gwybodaeth am Bartneriaid y Prosiect’
Croeso i'r adran wybodaeth am gyfraniadau partneriaid. Fel rhan o'n gofynion cydymffurfio gan gyrff ariannu, mae'n ofynnol i bartneriaid y Prosiect, trwy Reolwr Prosiect/Prif Ymchwilydd Abertawe, gadarnhau bod partneriaid y prosiect wedi ymrwymo i unrhyw gyllid cyfatebol a rhoi sicrwydd ynghylch sut maen nhw wedi cyrraedd gwerth gwirioneddol eu cyfraniad.
Rhaid i'r cyfraniadau/costau hyn fod yn rhesymol ac yn gyfiawnadwy.
Cyfrifoldeb y Rheolwr Prosiect/Prif Ymchwilydd yw cyfleu'r canllawiau canlynol i unrhyw bartner sy'n gwneud cyfraniad uniongyrchol a/neu gyfraniad cyfatebol mewn nwyddau a gofyn iddo ddangos tystiolaeth o hyn trwy gyflenwi llythyr cefnogaeth gan ddefnyddio'r templed hwn.
Lawrlwythwch ein templed llythyr o gefnogaeth
Gall y llythyr roi sicrwydd mewn un o ddwy ffordd:
- (A) Datganiad Gwerth Marchnadol: Mae'r partner yn cadarnhau yn ysgrifenedig fod 'y cyfraniad yn rhesymol ac yn gyfiawnadwy ac yn unol â safonau'r diwydiant a/neu bolisi'r sefydliad' (gorfodol)
- (B) Cyfrifiad (£) Methodoleg: Mae'r partneriaid yn rhoi dadansoddiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigurau ar gyfer y cyfraniad cyfatebol sy'n tystio i werth marchnadol go iawn. (dewisol/dymunol)
Gellir creu'r llythyr mewn 6 cham hawdd:
- Lawrlwythwch ein templed llythyr o gefnogaeth
- Diwygiwch ef yn ôl yr arfer gorau e.e. fel y nodir gan ofynion UKRI:
- Gwnewch yn siŵr bod y llythyr yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- (A) Beth yw'r cyfraniad
- (B) Gwerth/cyfanswm y cyfraniad
- (C) Sut cafodd y cyfraniad ei brisio
- (D) Rhaid cynnwys y datganiad gwerth marchnadol uchod yn cadarnhau ‘ein bod yn cadarnhau bod y cyfraniad yn rhesymol ac yn gyfiawnadwy ac yn unol â safonau’r diwydiant a/neu bolisi’r sefydliad’ a/neu ddarparu methodoleg gyfrifo glir sy’n tystio i werth marchnadol go iawn
4. Gwnewch yn siŵr bod llythyr y sefydliad ar ei bapur pennawd a bod ganddo ddyddiad o leiaf 6 mis cyn ei gyflwyno.
5. Gofynnwch i'r sefydliad anfon y llythyr wedi'i deilwra sy'n cynnwys y pedair elfen uchod (a i d) yn ôl atoch chi fel Prif Ymchwilydd, yn barod i'w gyflwyno i'r cyllidwr.
6. Dylech brawfddarllen fel Rheolwr Prosiect/Prif Ymchwilydd cyn cyflwyno cais ar y porth grantiau fel sy'n ofynnol gan y cyllidwr.
Gallai methu â chydymffurfio â'r broses hon arwain at risg i enw da a chyfyngiad ar gyllid y Brifysgol fel rhan o'r gofynion gan y ddau gorff ariannu ac wrth adrodd i HESA.
Diolch am eich cydweithrediad a'ch cydymffurfiaeth â'r broses hon.
Rhestr Termau
Diffiniadau o arian cyfatebol mewn nwyddau:
Gall arian cyfatebol ddod ar ddwy ffurf: yn uniongyrchol fel ‘arian parod’ neu fel cyfraniadau ‘mewn nwyddau’. Mae arian cyfatebol mewn nwyddau yn golygu bod sefydliad neu unigolyn allanol yn darparu cyfraniad, gwasanaeth neu gynnyrch mewn partneriaeth â Prifysgol Abertawe, ond nid yw cost wirioneddol y gwasanaeth yn ymddangos yng nghyfrifon Prifysgol Abertawe.
Mae rhai enghreifftiau o arian cyfatebol mewn nwyddau yn cynnwys:
- Amser a dreulir gan staff y partner wrth iddynt weithio ar y prosiect lle mae'r partner yn talu cyfanswm cost eu staff;
- Offer perthnasol a brynwyd am y gost gan bartner y prosiect ac a gynigir i'w ddefnyddio gan y prosiect (lle mae cysylltiad uniongyrchol ag amcanion y prosiect) neu weithrediad a defnydd yr offer sy'n eiddo iddo.
- Costau rhentu gwirioneddol ar gyfer mangreoedd a ddefnyddir gan y prosiect neu ar ei ran ac sy'n daladwy gan y partner/ariannwr cyfatebol; a
- Chostau gweinyddu perthnasol a ysgwyddir gan y partner neu drydydd parti sydd â chysylltiad uniongyrchol â chyflenwi gweithgareddau â chymorth, etc.
Llythyr Cymorth:
Nodyn pwysig: Rhaid i gyfraniadau partneriaid prosiect, boed mewn arian parod neu mewn nwyddau, gadarnhau bod y cyfraniad yn unol â safonau'r diwydiant a/neu bolisi'r sefydliad neu'n ddelfrydol ddarparu dadansoddiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigurau ar gyfer y cyfraniad cyfatebol. Rhaid rhoi gwerth ar gyfraniadau mewn nwyddau.