Elusen gofrestredig rhif 1138342
Beth mae eich rhodd yn ei gefnogi
Gallwch wneud gwahaniaeth drwy roi arian nawr i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb. Hyd yn hyn, mae'r arian a godwyd wedi helpu i ariannu atal hunanladdiad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gweithlu'r GIG mwy gwydn ac atgyfeirio at ymarfer corff ar gyfer myfyrwyr sy'n teimlo dan straen.
Dyma rai prosiectau anhygoel sydd wedi'u cefnogi gan yr ymgyrch Cymryd Camau Breision hyd yn hyn:
Iechyd meddwl plant a phobl ifanc
Mae'r Athro Ann John a'i thîm o ymchwilwyr yn Yr Ysgol Feddygaeth yn archwilio iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â ffyrdd o atal hunanladdiad a hunan-niwed.
"Mae'n teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth - mewn ffordd wahanol iawn ond yr un mor bwysig - â fy niwrnodau mewn gofal clinigol uniongyrchol".
Drwy gefnogi'r ymchwil feddygol bwysig hon, mae noddwyr wedi'n helpu i achub bywydau am flynyddoedd i ddod.
GWEITHLU GWYDN AR GYFER Y GIG
Mae'r proffesiwn nyrsio mewn argyfwng; mae prinder staff ac mae llawer o nyrsys yn teimlo bod diogelwch cleifion mewn perygl.
Bydd yr Hyb yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod eu profiadau â'u cyd-fyfyrwyr nyrsio, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a nyrsys profiadol sydd wedi bod yn eu sefyllfa hwy.
Bydd y sgiliau y mae ein myfyrwyr nyrsio yn eu hennill o'u hastudiaethau, a'r cymorth y maent yn ei gael gan yr Hyb yn sicrhau eich bod chi a'ch perthnasau'n derbyn y gofal gorau posib, o wardiau esgor i gartrefi gofal a phopeth rhyngddynt.
Bod yn Actif
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n gofalu am iechyd a lles ein cymuned, felly rydyn ni'n cynnig Bod yn ACTIF, rhaglen gweithgarwch corfforol i helpu ein myfyrwyr a'n staff i fod yn fwy actif, i gael hwyl ac i gwrdd â phobl newydd.
Mae Shana yn datgelu sut mae cyllid wedi helpu i fywiogi'r rhaglen Bod yn ACTIF, gan fod o fudd i staff a myfyrwyr.
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae problemau iechyd meddwl ar gynnydd ymysg pobl ifanc. Ar ôl byw drwy bandemig, mae ein myfyrwyr bellach yn wynebu argyfwng costau byw. Yn yr amserau ansicr hyn, mae'n fwy heriol nag erioed addasu i fywyd yn y brifysgol a'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny. Mae ein Gwasanaeth Lles yn cynnig cymorth rhagorol i'n myfyrwyr, ond rydym bob amser yn ceisio gwneud mwy.
Bydd cefnogi lles ein myfyrwyr yn rhoi'r dechrau gorau posib iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Cwrdd â Tîm Abertawe 2025
Effaith
Yn 2023-24, roedd rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn cefnogi prosiectau mewn gwir angen. Diolch - Elusen gofrestredig rhif 1138342