Dewch i gwrdd â Henry Spencer, myfyriwr Bioleg Forol 2il flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe ac yn rhedwr a thriathletwr brwd!
Rydyn ni'n sgwrsio â Henry am ei daith hyfforddi a pham ei fod yn rhedeg i Dîm Abertawe.
Pam penderfynoch chi redeg Hanner Marathon Abertawe?
I herio fy hun a gweld beth yw lefel fy ffitrwydd un mis cyn Ironman 70.3 Abertawe a chodi arian ar gyfer Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl.
Beth mae'n ei olygu i chi'n bersonol?
Mae ymarfer corff yn ffordd o glirio fy mhen, ac mae rhedeg Hanner Abertawe a chodi arian yn ffordd i mi gefnogi pobl nad ydynt yn gallu helpu eu hunain.
Dywedwch wrthym pam mae iechyd meddwl gwell yn bwysig i chi.
Mae gwell iechyd meddwl yn hynod o bwysig i mi – rydw i eisiau bod y fersiwn orau ohonof fy hun ac os gallaf godi arian i bobl deimlo’r un peth yna mae’n fuddugoliaeth!
Dywedwch wrthym sut byddwch yn hyfforddi cyn y ras.
Rwy'n angerddol am ffitrwydd, felly rwy'n cymryd fy hyfforddiant o ddifrif - cymysgedd o rediadau hir a hawdd, rhedeg mewn ysbeidiau byr a chaled, beicio a nofio pellteroedd hir, a hyfforddiant cryfder a chyflyru unwaith yr wythnos er mwyn osgoi anaf.
Sut rydych chi'n cynnal cymhelliad drwy gydol eich hyfforddiant, yn enwedig ar ddiwrnodau anodd?
Mae cerddoriaeth yn helpu, yn ogystal â chofio am y teimlad o foddhad rwy'n ei brofi bob tro rwy'n cwblhau un o fy sesiynau hyfforddiant.
Oes gennych chi nod personol ar gyfer y ras hon, p'un a yw'n seiliedig ar amser neu'n fater o gwblhau'r ras?
Hoffwn i guro fy amser llynedd, sef 1:25:56! A bod â digon o egni ar ôl ar y diwedd i ddathlu'n iawn.