Pam astudio Gwyddorau Meddygol yn Abertawe?
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym o ddifri am y gwyddorau biofeddygol a natur drawsnewidiol y sector hwn i iechyd, cyfoeth a lles ein cymunedau'n fyd-eang. Ein cenhadaeth yw defnyddio ein gwybodaeth wyddonol i wella canlyniadau iechyd cleifion go iawn.
Mae ein graddau BSc ac MSci israddedig yn cynnig cyfle i chi arbenigo ym meysydd gwahanol y gwyddorau biofeddygol, deall sut mae'r corff yn gweithio, sut mae'n ymateb i ysgogiadau gwahanol a sut gall y ddealltwriaeth hon gyflwyno gofal iechyd sy'n benodol i'r unigolyn. Mae gwybodaeth o'r fath o gymorth i ni wrth i ni archwilio a goresgyn yr heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu fel rhywogaeth ac wrth i ni baratoi ein myfyrwyr at fynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol fel gwyddonwyr.
Mae ein rhaglenni yn y gwyddorau biofeddygol yn y safleoedd uchaf yn rheolaidd yn y tablau cynghrair cenedlaethol. Er enghraifft, mae'r Gwyddorau Biofeddygol yn Abertawe yn y 14eg safle yn y DU (Complete University Guide 2026) a'r 9fed safle yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026).