Dathlu'r Dyniaethau

Gŵyl Bod yn Ddynol 2026

Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2026 unwaith eto.

Fel gŵyl genedlaethol y Dyniaethau yn y DU, mae Bod yn Ddynol yn dod ag ymchwil a chymunedau ynghyd drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim sy'n ysbrydoli chwilfrydedd, sgwrs a chysylltiad.

Mae thema'r ŵyl eleni, sef Croesffordd, yn archwilio'r adegau, y lleoedd a'r syniadau sy'n llywio ar ein bywydau. Gall croesffordd fod yn bwynt dewis, darganfod neu newid lle mae safbwyntiau gwahanol yn cwrdd, a lle gallai posibiliadau newydd ddod i'r amlwg.

Trwy raglen amrywiol o weithgareddau, bydd yr ŵyl yn arddangos sut mae ymchwil y dyniaethau’n ein helpu ni i ddeall pobl, diwylliannau, hanesion a chymdeithasau.

Trwy ddod ag ymchwilwyr, cymunedau, llunwyr polisi, elusennau, addysgwyr, teuluoedd a'r cyhoedd yn ehangach ynghyd, mae Bod yn Ddynol yn creu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, cyfnewid syniadau ac archwilio rhai o'r cwestiynau sydd bwysicaf yn ein bywydau heddiw.

Ymunwch â ni i ddarganfod sut gall y dyniaethau ein helpu ni i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas - a dychmygu'r dyfodol rydym eisiau ei greu.

5 - 14 Tachwedd 2026

Ein Digwyddiadau

What's Your Ancient History: Gweithdy Thema’r Clasuron

Theatr Volcano, 14 Tachwedd

Darganfyddwch sut mae straeon o'r byd hynafol yn cael eu hail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw, gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a chrewyr cynnwys i ddatblygu eich cynnwys ysgogol eich hun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol wedi'i ysbrydoli gan Roeg yr henfyd, Cyprus, Macedonia a'r tu hwnt.

Caerdydd

14/11/2026

02:00 - 16:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Mummies

What's Your Ancient History: Sesiwn Podlediad Byw

Theatr Volcano, 14 Tachwedd

Ymunwch ag ymchwilwyr a chrewyr cynnwys ar gyfer podlediad byw sy'n archwilio pam mae hanes hynafol yn dal i fod yn bwysig heddiw, o fythau arwrol a straeon hanesyddol i'r ffyrdd y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn trawsnewid sut rydym yn ymgysylltu â'r gorffennol. 18+

Caerdydd

14/11/2026

19:00 - 20:30 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Menyw yn edrych i'r pellter

Brains! Dancing the Neurodivergent Past (Digwyddiad caeedig)

Darganfyddwch sut y gall symudiad ddod â hanes yn fyw wrth i blant arddangos straeon am niwroamrywiaeth o'r gorffennol trwy ddawns, wedi'i ysbrydoli gan ymchwil Prifysgol Abertawe i fuddion symudiad i ddysgwyr niwrowahanol.

Digwyddiad caeedig trwy wahoddiad yn unig

Digwyddiad caeedig

01/01/2027

00:00 - 00:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Menyw yn edrych i'r pellter

Gwnïo Straeon am Famolaeth

14 Tachwedd, GS Artists, Y Stryd Fawr, Abertawe

Byddwch yn greadigol yn y gweithdy ymarferol hwn sydd wedi'i ysbrydoli gan hanesion actifiaeth dros anabledd, gan ddefnyddio ffurfiau celf fel collage, brodwaith a gwneud cardiau post i fyfyrio ar anabledd, hawliau a chymuned heddiw.

Rydym yn gwahodd cymunedau anabl; artistiaid lleol

Digwyddiad agored

07/11/2026

10:00 - 15:30 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Miss Hawtin