Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2026

Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn dychwelyd i Abertawe am ei phedwaredd flwyddyn, gan ddod ag ymchwil a chymunedau ynghyd drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim.

Mae thema eleni sef Arian, Chyllid a Chostau Byw, yn archwilio'r penderfyniadau ariannol, yr heriau a'r profiadau sy'n effeithio arnon ni i gyd.

O gyllidebau'r cartref a lles cymunedol i faterion economaidd a chymdeithasol ehangach, mae'r ŵyl yn amlygu sut gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ein helpu ni i ddeall y byd o'n cwmpas.

Mae'r ŵyl sy'n agored i bawb, yn cynnig cyfleoedd i ddarganfod syniadau newydd, rhannu safbwyntiau ac ymgysylltu ag ymchwil mewn ffyrdd ystyrlon a hygyrch.

Ymunwch â ni rhwng 17 Hydref a 7 Tachwedd 2026 a darganfod sut mae’r gwyddorau cymdeithasol yn helpu i ddylanwadu ar ddyfodol mwy teg a gwybodus.

Cynefin Digidol: O Ddur i Silicon

Y Storfa (Llyfrgell Glowyr De Cymru)
Darganfyddwch esblygiad cyfrifiadura yn yr arddangosfa galw-heibio hon gan Gasgliad Hanes Cyfrifiadura Abertawe. Gallwch archwilio hen gyfrifiaduron, chwarae gemau clasurol ar galedwedd gwreiddiol. Yn addas i bob oedran.

Archebwch nawr

Arddangosfa

17/10/2026

13:00 - 14:30 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Plentyn wrth yr hen gyfrifiadur

Cynefin Digidol: O Ddur i Silicon

Y Storfa (Llyfrgell Glowyr De Cymru)
Ymunwch â'r Athro John Tucker am sgwrs sy'n archwilio hanes annisgwyl cyfrifiadura yn Ne Cymru, a'r bobl a'r lleoedd y tu ôl iddo.

Yn addas i bob oedran.

Archebwch nawr

Sgwrs

18/10/2026

13:00 - 14:30 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Plentyn wrth yr hen gyfrifiadur

Prynu nawr a thalu'n ddiweddarach? Helpwch ni i ddeall ffordd newydd o siop

Y Storfa (ystafell ymneilltuo)
Mae gwasanaethau Prynu Nawr a Thalu'n Ddiweddarach yn newid y ffordd rydyn ni'n siopa, ond sut maen nhw'n gweithio a beth yw'r manteision a'r risgiau posibl?

Archebwch nawr

Gweithdy

17/10/2026

10:00 - 16:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Mochyn

Gweld yr hinsawdd drwy fy llygaid i

Theatr Volcano
Archwiliwch osodiad celf rhyngweithiol lliwgar am newid yn yr hinsawdd, sydd wedi'i greu gan ddysgwyr o ysgolion arbennig a lleoliadau darpariaeth amgen. Mae'r arddangosfa hygyrch hon, sydd wedi'i chreu gan ddefnyddio deunyddiau sydd wedi'u hailgylchu, yn gwahodd ymwelwyr o bob oed i gymryd rhan.

Gosodiad celf

17/10/2026

09:00 - 16:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
gosodiad celf newid hinsawdd

Cwtsh Creadigol: Arian, Cof a Chost Heneiddio

Y Tŷ Celf, 1 Stryd John, Llanelli, SA15 IUH
Archwiliwch gostau byw drwy greadigrwydd, sgwrs a phrofiadau a rennir. Mae'r gweithdai cynhwysol hyn yn dod â phobl ynghyd i greu gwaith celf, rhannu straeon a chyfrannu at arddangosfa gymunedol.

Gweithdy

19/10/2026

11:00 - 16:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
darlun o bethau

Gwyliau'r gorffennol

We were pleased to be joined by Bangor and Cardiff Universities to host the ESRC's offering a pan-Wales day of fun, informal and interactive events on wellbeing as part of the 2023 Festival of Social Science.

Cynhaliodd Prifysgol Abertawe weithgareddau a gweithdai gan ymchwilwyr ar draws y tair Prifysgol, yn dilyn themâu gan gynnwys iechyd meddwl, newid ymddygiadol, deallusrwydd artiffisial, dementia, cadwraeth amgylcheddol, argyfwng hinsawdd, rhyw a hunaniaeth ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

Gweld ein Gŵyl 2023 yma!

ESRC Festival of Social Science
ESRC Logo