Mae cyflwyno cais Clirio i Brifysgol Abertawe'n hawdd, dilynwch y tri cham syml hyn cyn gynted ag y byddwch chi wedi derbyn eich canlyniadau:
Cam 1 - Dechreuwch eich cais
Cam 2 - Ychwanegwch eich manylion personol, eich cymwysterau a dewiswch eich cwrs - yna cyflwynwch y cais.
Cam 3 - Cyflwynwch gais am lety yn syth, gan ddefnyddio eich rhif adnabod UCAS neu eich rhif adnabod Clirio.
Heb gael eich canlyniadau eto?
Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau Clirio! Drwy gofrestru i dderbyn diweddariadau Clirio, chi fydd y cyntaf i wybod am ein lleoedd gwag drwy Glirio, digwyddiadau, cynghorion, argymhellion, a derbyn nodiadau atgoffa er mwyn cadw eich lle yn y Brifysgol.