Eisiau dod i Abertawe?

Os ydych am ddod i Abertawe ond eisoes yn dal lle mewn Prifysgol arall, gallwch hunan-ryddhau i'r system Glirio trwy ddirywio'r lle sydd gennych ar hyn o bryd. 

Dilynwch ein canllaw cam-wrth-gam isod ac agorwch ddrws i ddyfodol disglair ym Mhrifysgol Abertawe ym Mis Medi.

Campws o'r awyr.

Gwrthod eich lle yn UCAS

Mae UCAS wedi gwneud pethau’n haws i ymgeiswyr newid eu Prifysgol ar ôl iddyn nhw gael eu canlyniadau. Yn hytrach na chysylltu gyda’ch Prifysgol neu Goleg ac aros iddyn nhw eich rhyddhau chi mewn i’r broses Clirio, rydych chi nawr yn gallu gwneud hyn eich hunain yn eich cyfrif UCAS (Hwb UCAS).

  1. Mewngofnodwch: Mewngofnodwch i Hwb UCAS
  2. Dewiswch "gwrthod": Cliciwch ar y botwm ‘Gwrthod fy lle’ (Decline my place) ar eich hafan - byddwch yn cael eich tywys i dudalen sy’n esbonio’r broses ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn siŵr eich bod eisiau cael eich rhyddhau.
  3. Cyfeiriwch eich hun: Dyna ni! Unwaith mae hyn wedi cwblhau bydd eich statws ar UCAS yn dangos eich bod yn y system Glirio. Bydd modd i chi nawr - drwy Hwb UCAS - gyfeirio eich hun at y cwrs yn Abertawe sydd wedi cynnig lle i chi yn ystod Clirio.

Ydych chi'n teimlo ychydig bach yn nerfus am ryddhau eich hunan i'r broses Glirio? Does dim angen gofidio! Rydyn ni wedi ysgrifennu Canllaw Clirio i'ch cynorthwyo gyda'r broses, ac wedi creu tudalen gyda Cwestiynau Cyffredin am y broses Glirio a Bywyd Myfyrwyr er mwyn lleddfu'ch gofidion.

Adnoddau ychwanegol ar gyfer clirio