Yn Abertawe, rydyn ni'n gwybod y gall Clirio fod yn amser heriol felly rydyn ni eisiau gwneud y broses mor hawdd â phosibl i chi sicrhau eich lle.

Os na allwch ddod o hyd i'r atebion yr ydych yn chwilio amdanynt yn ein Cwestiynau Cyffredin neu yn ein Canllaw Clirio, cysylltwch â'n tîm Clirio gan ddefnyddio ein manylion cyswllt isod.

Diogelu Data

Drwy gyflwyno eich ymholiad rydych yn cydsynio i'ch data gael ei gadw gan Brifysgol Abertawe. Bydd eich data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion delio â'ch ymholiad, ac anfon gwybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti. Os hoffech dynnu eich hun o gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP neu e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk

Darganfyddwch yr atebion yma!

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Rydym yn deall y gall y broses Clirio fod yn anodd i'w deall, felly ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin am atebion i'r cwestiynau y mae myfyrwyr yn eu gofyn yn aml yn ystod y cyfnod Clirio.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch yn ein Cwestiynau Cyffredin, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod - bydd ein tîm cyfeillgar yn hapus i'ch helpu.

Cwestiynau Cyffredin Clirio
Delwedd o ddau fyfyriwr yn siarad mewn gofod cymdeithasol ar Ganolfan y Bae.

Sut i wneud cais

Yn edrych i wneud cais trwy Clirio?

Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol sy'n dangos y broses cais cam-wrth-gam fel y gallwch ei ddilyn i wneud cais am eich cwrs.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, cysylltwch â'n tîm Clirio isod.

Eich Canllaw i Glirio
Delwedd o fyfyriwr yn astudio gyda gliniadur a dyfais tabl.

Adnoddau ychwanegol ar gyfer clirio