Croeso cynnes i Rwydwaith Abertawe
Croeso i'n rhwydwaith byd-eang o dros 250,000 o raddedigion Abertawe! P'un a ydych wedi graddio o Brifysgol Abertawe, Coleg Prifysgol Abertawe, neu Goleg Prifysgol Cymru Abertawe, rydym wrth ein bodd eich cael chi yma gyda ni.
Fel aelod o'r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr, byddwch chi'n mwynhau buddion arbennig gan gynnwys rhaglen fywiog o ddigwyddiadau, aduniadau a chyfleoedd i gysylltu â'r Brifysgol, ein myfyrwyr presennol a'r gymuned ehangach o gyn-fyfyrwyr.
Diweddarwch eich manylion i sicrhau nad ydych chi'n colli'r newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf gan Brifysgol Abertawe.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â ni ar Facebook, Instagram a LinkedIn.